23 Gorffennaf 2008
Mae arweinwyr cynghorau a’u partneriaid yn yr awdurdodau heddlu ledled Cymru wedi gwrthod yn unfrydol gynigion y Swyddfa Gartref i ethol penaethiaid heddlu yn uniongyrchol.
Dyma ddywedodd John Davies, Arweinydd WLGA (Sir Benfro):
“Cynnig amrwd yw’r cynnig yma gan ei fod yn methu â chydnabod y system bresennol yng Nghymru. Yn un peth, byddai’n ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth at system o blismona sydd yn llethchwith ar y gorau. Ond ar ben hyn, byddai’n dibrisio rôl ddilys y cyngor lleol sydd eisoes â’r mandad democrataidd i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol. Os yw’r Swyddfa Gartref eisiau ystyried y rôl newydd hon, yna dylai’r pwerau newydd gael eu trosglwyddo i ddwylo arweinwyr y cynghorau sydd eisoes yn gwneud y gwaith yma.”
“Sigledig fu hanes y Swyddfa Gartref yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Methwyd ag ad-drefnu’r heddlu. Methwyd ag ariannu system alwadau SNEN yng Nghymru yn y ffordd briodol a chafwyd galwadau i ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. O gymryd y rhain ar y cyd, mae’n ymddangos nad yw’r Swyddfa Gartref yn deall yr agenda Gymreig. Gallai dibrisio rôl cynghorwyr a etholir yn ddemocrataidd fod yn drychinebus, yn enwedig os bydd awdurdodau heddlu a chynghorau yn gweithio yn ôl agendâu gwleidyddol lleol gwahanol.”
Dyma ddywedodd Ian Roberts, Cadeirydd Awdurdodau Heddlu Cymru:
“O fwrw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru, gallwn weld canlyniadau sy’n talu ar eu canfed. Mae troseddau wedi cwympo 9% ac mae nifer y bobl sy’n aildroseddu ar ei isaf ers mwy na 10 mlynedd. Mae’n ymddangos bod y Swyddfa Gartref a’i bryd ar botsian gyda’r system, yn hytrach na chydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud. Mae ymladd yn erbyn trosedd yn golygu gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddluoedd, y cynghorau ac asiantaethau eraill, ac mae’r model yma eisoes wedi profi ei werth yng Nghymru.”
“Er nad yw’r awdurdodau lleol na’r awdurdodau heddlu yng Nghymru yn llaesu dwylo am y strwythurau sy’n bodoli eisoes ac er eu bod yn deall egwyddor nid da lle gellir gwell, partneriaeth lwyddiannus a gweithio ar y cyd fu ein hanes hyd yn hyn. Oherwydd hyn, dylai gwasanaethau i bobl yn eu cymunedau barhau i fod yn atebol i breswylwyr drwy eu cyngor a’r cynghorwyr sy’n cael eu hethol yn lleol.”
Diwedd
Ceir manylion am y cynigion i ddiwygio’r awdurdodau heddlu yng Nghymru a Lloegr yng nghyhoeddiad y Swyddfa Gartref “From the neighbourhood to the national: policing our communities together.”
Awdurdodau Heddlu Cymru (PAW) yw’r corff sy’n cynrychioli’r pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Natasha Weeks, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, WLGA ar 029 2046 8673 neu natasha.weeks@wlga.gov.uk
