Arweinydd newydd WLGA wedi'i enwebu
28 Mai 2008
Yn amodol ar sêl bendith Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol WLGA fis nesaf, y Cyng. John Davies (Sir Benfro) fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am arwain WLGA dros y pedair blynedd nesaf ar ôl ei enwebu mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf.
Yn sgîl yr etholiadau lleol fis Mai, fe welwn ni'r newid gwleidyddol mwyaf ym myd llywodraeth leol ers 20 mlynedd. Serch hynny, fe gytunodd pob plaid sy'n rhan o WLGA i barhau i rannu grym a chyfrifoldebau arwain yn gyfartal fel mae WLGA wedi gweithredu dros y pedair blynedd diwethaf. Er undod gwleidyddol, bydd y pleidiau'n siarad yn unfryd i ofalu bod WLGA yn cael dweud ei dweud yn brif gorff lobïo byd llywodraeth leol Cymru.
Yn ôl Cyfansoddiad WLGA, mae'r Arweinydd i'w ethol o blith y cylch gwleidyddol mwyaf ac, yn sgîl yr etholiadau lleol, y Cylch Annibynnol yw hwnnw. Ac yntau'n Arweinydd y Cylch Annibynnol, felly, dilynodd y byddai'r Cyng. Davies yn cael ei enwebu'n Arweinydd WLGA.
Mae'r Cyng. Davies yn ddyn adnabyddus, uchel ei barch, ym myd llywodraeth leol. Llefarwr WLGA dros Addysg fuodd e ynghynt.
Cytunwyd ar ddau enwebiad arall i gryfhau carfan uwch arweinyddion WLGA. Fe gafodd y Cyng. Derek Vaughan (Castell-nedd Port Talbot), Arweinydd Cylch Plaid Llafur a chyn Arweinydd WLGA, ei enwebu ar gyfer swydd sydd newydd gael ei chreu – Dirprwy Arweinydd – ac fe gafodd y Cyng. Meryl Gravell (Sir Gâr) ei henwebu i barhau'n Llywydd WLGA.
Mae'r penodiadau hynny'n amodol ar sêl bendith Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol WLGA, hefyd, ac mae prif lefarwyr WLGA i'w hethol yno o blith yr holl gylchoedd gwleidyddol.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol WLGA ar 27ain Mehefin yng Nghanolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod.
Diwedd


