Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Arian 'Trefi Taclus' i gynghorau Cymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Arian 'Trefi Taclus' i gynghorau Cymru

15 Mai 2008

Croesawodd WLGA heddiw y ffaith y bydd £3 miliwn ychwanegol ar gael i'r awdurdodau lleol dros dair blynedd ar gyfer prosiectau gwella'r amgylchedd.

Meddai Steve Thomas, Prif Weithredwr WLGA:

“Gall amgylchedd o ansawdd gwael effeithio'n fawr ar farn pobl am gyngor yr ardal. Gall effeithio ar fywyd y gymuned, hefyd – boed droseddau a diogelwch, adfywio neu iechyd a lles. Mae'r cynghorau'n effro i'r broblem ac yn gwneud eu gorau glas i wella byd pobl leol trwy wella'r amgylchedd. Yn wir, rhoes Cynllun Rhagoriaeth Cymru (cynllun cydnabod arferion da llywodraeth leol) glod i ryw hanner cynghorau Cymru fis Mawrth eleni am y modd maen nhw'n mynd i'r afael â materion amgylcheddol lleol megis cynlluniau a mentrau i leddfu'r newid hinsoddol a phrosiectau adfywio mawr ar gyfer cludiant cynaladwy, mannau agored ac ardaloedd trefol.”

“Nid cyfrifoldeb y cynghorau yn unig yw gwella'r amgylchedd, fodd bynnag. Mae angen gwneud hynny ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol megis yr heddluoedd, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus'. Rhaid i'r cynghorau a'u partneriaid annog pobl i fod yn falch o'u cymunedau, cymryd rhan mewn cynlluniau ar gyfer rheoli gwastraff a derbyn peth cyfrifoldeb am amgylchedd eu bro.”

“Bydd yr arian ychwanegol yn helpu'r cynghorau i ychwanegu at y gwelliannau diweddar a buddsoddi ymhellach yn y materion sy'n bwysicaf i'w cymunedau. Mae'n dda gyda ni weld bod Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio ar yr un blaenoriaethau. Er ein bod yn croesawu rhagor o arian, fodd bynnag, rhaid ei ystyried yn fan cychwyn ar gyfer hel tystiolaeth o'r hyn mae angen ei wneud yn y pen draw i ddatblygu cymunedau diogel, cynaladwy a deniadol ledled Cymru. Fel y gwelliannau yn ein cymunedau, mae angen i drefniadau ariannu Llywodraeth y Cynulliad bara dros gyfnod maith.”

Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai gyhoeddodd y trefniadau ariannu ar gyfer tair blynedd.

Nodiadau i olygyddion

Grant 'Trefi Taclus': Dyraniadau'r awdurdodau lleol 


Awdurdod lleol Dyraniad - £
Ynys Môn 87,806
Gwynedd 184,177
Conwy 104,071
Sir Ddinbych 103,032
Sir y Fflint 138,309
Wrecsam 121,073
Powys 214,958
Ceredigion 104,313
Sir Benfro 125,465
Sir Gâr 195,840
Abertawe 202,416
Castell-nedd Port Talbot 131,964
Pen-y-bont ar Ogwr 122,351
Bro Morgannwg 110,535
Rhondda Cynon Taf 210,192
Merthyr Tudful 49,047
Caerffili 153,235
Blaenau Gwent 61,103
Tor-faen 79,817
Sir Fynwy 87,278
Casnewydd 124,522
Caerdydd 288,496
Cyfanswm 3,000,000

  
  
  
  
 
  
  
 
  
  
   
  
  
 

  
  
  
  
  

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl