Clod i ragor o awdurdodau Cymru ym maes cynorthwyo a datblygu cynghorwyr
19 Tachwedd 2009
Mae tri chyngor ychwanegol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd), yn ogystal ag Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wedi ennill clod am safon y cymorth a'r hyfforddiant maen nhw'n eu rhoi i'w cynghorwyr.
Mae Breinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru, a luniodd WLGA, yn cydnabod ymdrechion awdurdodau lleol ac aelodau cyswllt WLGA* ynglŷn â rhoi gwybodaeth, medrau a chyfleoedd datblygu ar gael i gynghorwyr i'w helpu i gyflawni eu rolau.
Meddai'r Cynghorydd Russell Roberts (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd WLGA dros Faterion Gwella:
"Roeddwn i wrth fy modd pan enillodd fy awdurdod i statws y freinlen yn 2007. Mae rhaid gweithio'n ddyfal i fodloni meini prawf y freinlen sy'n cydnabod ymrwymiad awdurdod lleol i ddatblygu personol ei gynghorwyr ac yn adlewyrchu ymroddiad a chymhelliant swyddogion cynorthwyo'r cynghorwyr i feithrin yr wybodaeth a'r medrau mae'u heisiau ar gynghorwyr i gyflawni eu rolau.
Mae rôl cynghorydd yn arbennig o ymestynnol, yn arbennig yn y sefyllfa gyfredol am fod cymunedau lleol yn disgwyl i'w cynghorwyr wneud eu gorau glas i leddfu effaith y dirwasgiad.
“Ar gyfartaledd, mae cynghorwyr yn ymwneud â gwaith y cyngor am 25-27 o oriau bob wythnos yn ogystal â chynnal eu swyddi arferol a chyflawni eu cyfrifoldebau teuluol. Mae rôl cynghorwyr uchelradd megis arweinyddion ac aelodau o'r cabinet yn fwy nag amser llawn. Maen nhw'n gyfrifol am gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, miloedd o staff a llawer o'r gwasanaethau mae pobl yn eu hystyried yn hanfodol. P'un ai'ch bod yn arweinydd, aelod o'r cabinet, cadeirydd pwyllgor neu gynghorydd yn eich ward, fodd bynnag, mae rôl aelod etholedig yn un gyfnewidiol ac mae rhaid i bob un ohonon ni adolygu beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud drwy'r amser.”
Ledled Cymru, mae 8 awdurdod lleol, 2 awdurdod tân ac achub a 2 awdurdod parc cenedlaethol wedi ennill statws y freinlen bellach, er bod pob awdurdod lleol ac aelod cyswllt yn cyflawni llawer o waith da ym maes cynorthwyo a datblygu cynghorwyr.
Cewch chi ragor o wybodaeth am Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru trwy gyrchu www.wlga.gov.uk neu anfon neges at sarah.titcombe@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Swyddfa WLGA dros Faterion y Wasg – 029 2046 8673, 07747 535388 neu Natasha.Weeks@wlga.gov.uk
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
• Cyflwynodd WLGA Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru fis Hydref 2005 i wella'r modd mae awdurdodau lleol yn helpu ac yn datblygu eu cynghorwyr ac i gydnabod a lledaenu arferion da. Mae pob awdurdod yn cael ymgeisio am statws y freinlen ni waeth pa mor fawr neu fychan yw e, faint o adnoddau sydd ganddo a phwy sydd wrth y llyw yno. Mae fersiynau o'r freinlen ar gyfer awdurdodau'r 4 heddlu, y 3 gwasanaeth tân ac achub a'r 3 pharc cenedlaethol, hefyd.
• Mae 8 o 22 awdurdod lleol wedi ennill statws y freinlen hyd yma: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd. At hynny, mae 2 awdurdod tân ac achub – Awdurdod Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin ac Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd –wedi ennill statws y freinlen, yn ogystal â 2 awdurdod parc cenedlaethol – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
• Mae WLGA yn cynrychioli buddiannau 22 awdurdod lleol Cymru. Mae awdurdodau'r 3 gwasanaeth tân ac achub, y 3 pharc cenedlaethol a'r 4 heddlu yn aelodau cyswllt. Mae 1,250 o gynghorwyr yn awdurdodau unedol Cymru.
• Cyflwynodd WLGA Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru yn 2005 i gynnig trefn a sbardun i nifer cynyddol y gwasanaethau ar gyfer cynghorwyr byd llywodraeth leol Cymru megis cyrsiau hyfforddi/datblygu a chyfleusterau/gweithgareddau cymorth. Mae'r freinlen yn fframwaith eang ar gyfer cynllunio, hunanasesu, gweithredu ac adolygu'n lleol. Un o nodau eraill y freinlen yw annog awdurdodau i rwydweithio, cymharu eu gwaith a lledaenu arferion da ac arloesol.
• Panel annibynnol sy'n adolygu cynnydd ymgeiswyr ynglŷn â'r freinlen. Dyma ei aelodau: cydlynydd ac ymgynghorydd o WLGA, cynghorydd o un o awdurdodau Cymru, swyddog cynorthwyo cynghorwyr un o awdurdodau Cymru a chynghorydd o un o awdurdodau Lloegr.


