Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Menter bwysig er iechyd pobl cymoedd y de
 

Menter bwysig er iechyd pobl cymoedd y de

11 Tachwedd 2008

Mae menter bwysig wedi'i chyflwyno i wella iechyd a lles rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig cymoedd y deheubarth yn sylweddol.
Llywodraeth y Cynulliad, Rhaglen Blaenau'r Cymoedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru sy'n cynnal Her Iechyd y Cymoedd ar y cyd.
Mae rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y wlad ym Mlaenau'r Cymoedd lle mae lefelau'r tlodi a'r amddifadedd ymhlith ucha'r DG ac mae cyflwr iechyd a lles llawer o'r trigolion yn wael o ganlyniad.
Nod y prosiect hwn yw lleddfu anghydraddoldeb a rhoi i'r cymunedau hyn yr un cyfleoedd i fyw'n iach ac yn fodlon ag sydd yn rhannau eraill y DG.
Bydd y fenter yn cydblethu'n agos â Rhaglen Blaenau'r Cymoedd – rhaglen adfywio mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei harwain i fuddsoddi £140 miliwn dros 15 mlynedd er lles cymunedau ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Tor-faen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf.
Trwy adfywio'r ardaloedd hynny, datblygu'r economi a gwella'r amgylchedd yno, mae bwriad i ofalu bod Blaenau'r Cymoedd yn fro lwyddiannus a deniadol i bobl fyw a gweithio ynddi.
Meddai'r Cyng. Meryl Gravell (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol a Iechyd: “Mae strategaeth Her Iechyd y Cymoedd braidd yn syml. Allwn ni ddim disgwyl i'r GIG wella iechyd ar ei ben ei hun. Mae cynghorau Cymru yn cynnig dros 700 o wasanaethau ac mae pob un yn gallu effeithio ar iechyd a lles pobl a'u cymunedau. Rhaid inni wneud y gorau o'r effeithiau hynny a chydlynu camau i wella iechyd a lles ledled y rhanbarth.”
“Mae llawer o bobl heb sylweddoli sut gall eu gwaith effeithio ar iechyd ardal er gwell. Dylai pawb sy'n gweithio yn y gymuned ledaenu gwybodaeth i hwyluso effaith o'r fath.”
Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth am Her Iechyd Cymru ar: www.healthchallengevalleys.com.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl