Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Arweinyddion Cymru yn croesawu hwb mawr i gefn gwlad
 

Arweinyddion Cymru yn croesawu hwb mawr i gefn gwlad

18 Gorffennaf 2008

Bydd hwb mawr i faterion tai cefn gwlad Cymru o ganlyniad i fenter newydd ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael.

Cyflwynodd Jocelyn Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Faterion Tai, rwydwaith o 10 arbenigwr tai gwledig ar Faes y Sioe Frenhinol heddiw i fynd i'r afael ag anawsterau tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru gan fod prinder tai o'r fath yno o'i gymharu â sawl rhan arall o'r DG.

Meddai'r Cyng. Aled Roberts (Wrecsam), Llefarydd WLGA dros Faterion Tai:

“Mae prinder tai fforddiadwy ledled Cymru ond mae'r anawsterau mwyaf yng nghefn gwlad lle mae cymunedau gwledig dan fygythiad. Mae'r rhwydwaith yma o alluogwyr tai gwledig yn fenter ymarferol iawn fydd yn rhoi tai fforddiadwy ar gael i gymunedau gwledig.”

Meddai Nick Bennett, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae'r rhwydwaith newydd yma'n dangos faint mae cymdeithasau tai dielw, byd llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad yn gallu ei gyflawni ar y cyd i gyfnerthu cymunedau gwledig mae gwir angen arnyn nhw. Mae'n dda gweld bod argymhellion Comisiwn Sefydliad Joseph Rowntree a Chylch 'Gorchwyl a Gorffen' Sue Essex wedi'u rhoi ar waith mor gyflym."

Bydd Rhwydwaith y Galluogwyr Tai Gwledig yn gweithio ar y cyd â chymunedau lleol i nodi eu hanghenion o ran tai ac yn gweithio ar y cyd â'r partneriaid allweddol i ddod o hyd i ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny. Gallan nhw gyflawni rôl bwysig hefyd o ran dod o hyd i safleoedd addas i godi tai yn ogystal â nodi cartrefi gwag y bydd modd eu defnyddio eto.

Llywodraeth y Cynulliad, yr awdurdodau lleol a'u partneriaid ym maes tai sy'n ariannu'r rhwydwaith. Hanfod y fenter yw creu chwe swydd newydd i gynorthwyo cymunedau gwledig Ceredigion, Sir Gâr, Wrecsam a Sir y Fflint, Gogledd Powys, Powys Ganol ac Ynys Môn. Mae cynlluniau o'r fath ar waith yn barod yn Sir Benfro, Gwynedd, Sir Fynwy/De Powys a Chonwy/Sir Ddinbych.

Dewch i'r achlysur cyflwyno ym Mhafiliwn Llywodraeth Leol ar Faes y Sioe Frenhinol (Rhodfa E, Llain 395, cyferbyn ag adeilad yr NFU).

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Sir Powys sy'n cynnal Pafiliwn Llywodraeth Leol. Bydd cynrychiolwyr cynghorau Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam yn y pafiliwn hefyd gan mai siroedd nawdd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2008 ydyn nhw.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl