Cadarnhad bod Cymru yn rhoi trefn ar wastraff
01 Medi 2008
Mae pob un o gynghorau Cymru wedi cyflawni ei darged ynghylch faint o sbwriel aeth i'r tomenni yn 2007-2008.
Yn ôl ffigurau gyhoeddodd Cynllun y Cwotâu Tirlenwi heddiw, mae'r awdurdodau lleol wedi cyflawni eu targedau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ynglŷn â faint o sbwriel maen nhw wedi'i gladdu, yn ogystal â mynd yn nes at gyflawni targed Cyfarwyddeb y Tirlenwi ar gyfer 2009-10.
Meddai'r Cyng. Aled Roberts (Wrecsam), Llefarydd WLGA dros yr Amgylchedd:
“Dyma lwyddiant o bwys i gynghorau Cymru ac un sy'n ychwanegu at gynnydd y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am reoli gwastraff wedi cydnabod ei fod yn flaenoriaeth a dod at ei gilydd i ddatrys problemau trwy ystyried arbed gwastraff, casglu pethau i'w hailgylchu a chasglu a thrin olion bwyd. Mae'r ffigurau heddiw yn dangos bod ein strategaethau ar gyfer rheoli gwastraff yn llwyddo a bod ein hymdrech i newid agweddau pobl yn talu ar ei chanfed gan fod mwy a mwy ohonyn nhw'n defnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ac yn anfon llai i'r tomenni.”
“Yn ngoleuni'r ffigurau eleni, mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ragori ar darged cyntaf Cyfarwyddeb y Tirlenwi yn 2009-2010 ac osgoi dirwyon llym Llywodraeth y Cynulliad (hyd at £200 y dunnell) ac Undeb Ewrop (£0.5 miliwn y diwrnod). Rhaid i'r cynghorau ychwanegu at y cynnydd a chyflawni rhagor ym maes rheoli gwastraff trwy ystyried pob dewis ymarferol.”
“Mae gwastraff yn flaenoriaeth o hyd i bob un o gynghorau Cymru, yn arbennig os edrychwn ni ymlaen at ail darged Cyfarwyddeb y Tirlenwi yn 2013 a'r trydydd yn 2025. Er bod y cynghorau'n uchelgeisiol, maen nhw'n ymarferol am faint y gallan nhw ei gyflawni yn y sefyllfa ariannol bresennol, hefyd. Bydd WLGA yn parhau i gwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod llais byd llywodraeth leol i'w glywed o ran ariannu gwaith rheoli gwastraff yn y tymor hir.”
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi paratoi adroddiad am ei rôl ynglŷn â monitro Cynllun y Cwotâu Tirlenwi. Mae modd gweld yr adroddiad trwy gyrchu:
http://www.environment-agency.gov.uk/regions/wales/816243/868002/1166665/?version=1&lang=_e


