09 Hydref 2008
Roedd prinder tai fforddiadwy ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru a rôl y cynghorau ynglŷn â rhoi tai ar gael yn bwnc llosg eto heddiw yn ystod Cynhadledd Flynyddol WLGA yn Llandudno.
Mae arweinyddion materion tai Cymru wedi cytuno bod angen dyfeisio syniadau arloesol a chymryd camau'n ddiymdroi i helpu pobl trwy'r argyfwng presennol ynghylch tai.
Meddai'r Cyng. Aled Roberts (Wrecsam), Llefarydd WLGA dros Faterion Tai:
“Dyma adeg o ansicrwydd ariannol i'n cymunedau, ac mae effaith yr economi – yn arbennig ar faterion tai – yn destun pryder. Mae Adroddiad Essex yn tynnu sylw mae ei wir angen at y mater yma ac yn pennu cyfeiriad clir i fynd i'r afael â'r problemau cyfredol ym maes tai yn y tymor byr a'r tymor hirach fel ei gilydd. Dyma amgylchiadau anghyffredin i'r cynghorau ac mae rhaid inni ddyfeisio atebion mwy beiddgar ac arloesol fyth. Dylen ni gadw golwg ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yng ngweddill y DG a'r byd ehangach o ran atebion. Er enghraifft, mae gan awdurdodau Lloegr bwerau ychwanegol i ymateb i'r argyfwng presennol. Rydyn ni am gynnal trafodaethau gyda gweinidogion y Cynulliad am roi pwerau cyffelyb yng Nghymru.”
“Mae WLGA wrthi'n trafod y materion yma gyda Llywodraeth y Cynulliad ac rydyn ni wedi cyflwyno nifer o awgrymiadau. Rydyn ni wedi cyflwyno dadl gref bod angen rhoi rhagor o arian ar gyfer tai fforddiadwy – naill ai trwy gynyddu'r gyllideb bresennol neu ddefnyddio arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni'n croesawu'r cynllun sydd wedi'i sefydlu yn ddiweddar i achub morgeisi, fodd bynnag, am y bydd yn helpu pobl allai golli eu cartrefi ac yn rhoi'r tai gwag niferus yng Nghymru ar gael eto. Mae'r awdurdodau lleol wedi cynnig morgeisi i bobl yn y gorffennol ac mae rôl iddyn nhw eto ynglŷn ag ailsefydlu cynlluniau o'r fath i'r rhai allai golli eu cartrefi?”
“Yn ystod y trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad, byddwn ni'n sôn am broblemau'r ardaloedd gwledig o ran tai. Mae prinder tai fforddiadwy yng nghymunedau cefn gwlad ers rhai blynyddoedd ac mae'r broblem yn waeth yn sgîl yr argyfwng presennol.”
“Mae gan bawb hawl i fyw mewn cartref diogel a fforddiadwy. Mae hyn yn effeithio ar ansawdd eich bywyd ac, o ystyried cyflwr y marchnadoedd arian a thai ar hyn o bryd, mae'n amlwg y bydd pobl yn pryderu am y dyfodol. Mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni rôl strategol bwysig ynghylch nodi anghenion lleol ym maes tai ac maen nhw'n gweithio ar y cyd â'u partneriaid yn y maes hwnnw i helpu cymunedau yn ystod y cyfnod hynod anodd yma trwy ofalu bod y mathau priodol o gartrefi ar gael iddyn nhw ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
