Gwefan newydd i helpu plant sy’n byw mewn tlodi
17 Medi 2008
Heddiw (dydd Mercher, 17 Medi), lansiodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, wefan newydd arloesol i helpu cynghorau i godi plant uwchlaw tlodi.
Mae gwefan ‘Datrys Tlodi Plant - Cymru’ yn cynnig gwasanaethau cymorth a chyngor i gynghorau a’u partneriaid, o becyn offer hunan-asesu er mwyn monitro llwyddiant wrth fynd i’r afael â thlodi plant i ganllawiau wrth ddatblygu cynlluniau statudol i blant a phobl ifanc.
Bydd modiwlau hyfforddiant ar gyfer aelodau etholedig yn eu helpu hefyd i ddeall achosion ac effeithiau tlodi plant a sut gall awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau eraill i fynd i’r afael â’r materion dan sylw.
Y safle dwyieithog hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae wedi’i ddatblygu gan Achub y Plant yng Nghymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi’i ariannu.
Wrth lansio’r pecyn offer heddiw mewn canolfan blant integredig ym Mhontypridd, dywedodd y Gweinidog: “Mae mynd i’r afael â thlodi plant reit ar dop ein hagenda ar gyfer y trydydd tymor hwn. Mae’n hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i iechyd a lles ei phobl.”
“Mae awdurdodau lleol a’u partneriaid am gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o geisio lleihau tlodi plant a gwella cyfleoedd ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig. Drwy weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, rwy’n hyderus y gallwn wneud cynnydd pellach yn y maes hwn, sy’n fater o gyfiawnder cymdeithasol.”
“Bydd y wefan hon nid yn unig yn helpu awdurdodau lleol i ddeall eu rôl ond bydd hefyd yn mesur sut maen nhw’n mynd i’r afael â thlodi plant, yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn penderfynu pa gamau pellach y mae angen iddynt eu cymryd. Rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio’r wefan hon ac yn gweithio gyda’u partneriaid lleol i ddatblygu polisïau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig.”
Dywedodd Eleri Thomas, Cyfarwyddwr Rhaglen Interim Achub y Plant yng Nghymru: “Mae tlodi yn creithio bywydau gormod o blant yng Nghymru. Mae Achub y Plant yn credu bod llywodraeth leol a’u partneriaid yn allweddol i helpu Llywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad i gyrraedd y targed o ddiddymu tlodi plant erbyn 2020. Dyma’r wefan gyntaf o’i math yng Nghymru a bydd yn helpu cynghorau lleol a’u partneriaid i gyflawni heriau mynd i’r afael â thlodi plant yn lleol.”
Dywedodd y Cyng Russell Roberts (Rhondda Cynon Taf), llefarydd CLlLC dros Faterion Gwella: “Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd a’r cyfle i fyw bywyd i’w botensial llawn. Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth allweddol i bob cyngor yng Nghymru ac mae’r pecyn offer hwn yn dangos bod awdurdodau lleol o ddifrif wrth geisio sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd fwyaf agored i nwed ar draws eu cymunedau. Mae hefyd yn dangos eu hymrwymiad i gyflawni hynny. Dyma enghraifft o waith partneriaeth gwirioneddol ar ei orau gyda phob partner yn cydweithio tuag at yr un nod o ddarparu gwasanaethau ymatebol i’r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.childpovertysolutions.org.uk. Bydd y wefan hon yn fyw ddydd Mercher, 17 Medi 2008.


