08 Ebrill 2008
Yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar 2il Ebrill, cyflwynodd y cyflogwyr eu cynnig terfynol i'r undebau llafur fel a ganlyn:
2.45% ar bob un o bwyntiau grwn y cyflogau a £100 ychwanegol ar bwyntiau 4, 5 a 6;
bydd y Cyngor Cyswllt yn ceisio gorffen adolygu'r cytundeb ddeilliodd o drafodaethau 2007 erbyn 31ain Rhagfyr 2008;
bydd y Cyngor Cyswllt yn ceisio dod i gytundeb am y cynnydd i'w roi rhwng 1af Ebrill 2009 a 1af Ebrill 2010 erbyn 31ain Rhagfyr 2008.
Bydd yr undebau'n ymgynghori â'u haelodau bellach ac mae disgwyl y byddan nhw'n cyhoeddi canlyniad y broses honno ganol mis Mai.
Mae'r cyflogwyr wedi pwysleisio bod y cynnig gwell, terfynol yma wedi'i gyflwyno yn ôl yr hyn mae byd llywodraeth leol yn gallu ei dalu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
