Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Y Cyfnod Sylfaen – dyma'r ffeithiau yn ôl WLGA
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y Cyfnod Sylfaen – dyma'r ffeithiau yn ôl WLGA

22 Mai 2008

Dywedodd WLGA ac undebau'r athrawon eto heddiw eu bod yn pryderu'n fawr am nad oes digon o arian i gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen, y cwrícwlwm newydd i blant 3 – 7 mlwydd oed yng Nghymru.

Gan gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Ariannol Llywodraeth y Cynulliad, meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:

“Mae WLGA a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn cefnogi'r Cyfnod Sylfaen yn fawr ond bydd angen ariannu digonol a phriodol i gynnal y fenter addysgol bwysig yma dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r neges yma'n cyd-fynd â'r un rydyn ni wedi'i chyfleu ers blwyddyn ond mae'n ymddangos iddi fynd ar goll ymhlith manylion dadl hirfaith am yr ystadegau sydd wrth wraidd y cynllun. Os dyna'r broblem, pam rhoes Llywodraeth y Cynulliad £5 miliwn ychwanegol ar ei gyfer bythefnos yn ôl ar sail gwybodaeth sy'n hysbys iddi yn barod?"

“Alla i ddim gor-ddweud pa mor bwysig fydd trefniadau cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen a bod angen un athro i bob wyth disgybl i'w rhoi ar waith.”

Meddai David Hopkins, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru:

“Mae WLGA, ADEW ac undebau'r athrawon yn cytuno nad oes digon o arian ar hyn o bryd. Yr hyn mae angen ei wneud bellach yw cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod ffordd eglur o gyflwyno'r fenter dros y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys faint o arian y bydd ei angen, o ble daw'r arian hwnnw a sut bydd yn cael ei ddyrannu ymhlith yr awdurdodau lleol a'r ysgolion. Wrth wraidd hyn mae trefniadau rheoli ysgolion yn lleol a'r ffaith bod eisiau dyrannu arian yn ôl nifer y disgyblion ar gofrestr pob ysgol a holl gostau'r cwrícwlwm ar gyfartaledd."

"Hoffai WLGA a'r awdurdodau lleol gynnal rhagor o drafodaethau gyda Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a chydweithio â hi i ofalu ein bod mewn sefyllfa i gynnal y fenter gyffrous yma yn ystod y pedair blynedd nesaf.”

Mae tystiolaeth WLGA i Bwyllgor Ariannol y Cynulliad ar gael yma:
http://www.assemblywales.org/gethome/calendar-document-content?id=84882  

Diwedd

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl