Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Rhaid astudio cyflogau uwch swyddogion y sector cyhoeddus yn deg, yn ôl WLGA
 

Rhaid astudio cyflogau uwch swyddogion y sector cyhoeddus yn deg, yn ôl WLGA

17 Ebrill 2008

Mae WLGA heddiw yn gofyn am astudiaeth o gyflogau a chyfrifoldebau uwch swyddogion pob rhan o sector cyhoeddus Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, mae cyflogau byd llywodraeth leol wedi bod yn destun trafod yn y cyfryngau ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae staff y cynghorau wedi dangos bod byd llywodraeth leol yn atebol bob amser ynglŷn â materion o'r fath.

Meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:

“Mae rheolwyr awdurdodau lleol Cymru yn gweithio mewn sefyllfa wleidyddol agored a bywiog ac maen nhw'n gyfrifol am wasanaethau hanfodol mae pob cymuned yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Ar ben hynny, mae cymaint â 90% o bobl yn gwerthfawrogi'r gwasanaethau hynny ac yn fodlon iawn arnyn nhw yn ôl arolwg gynhaliodd Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar. Mae'r canfyddiadau hynny, ynghyd â'r ffaith inni weld eleni y cynnydd lleiaf yn nhreth y cynghorau ers degawd, yn dangos bod y cynghorau'n diwallu anghenion eu cymunedau ac yn mynd â'r maen i'r wal o ran rhoi gwasanaethau.”

“Mae angen trafodaeth aeddfed am y pwnc yma. Mewn astudiaeth a gynhaliodd yn ddiweddar, fe dynnodd Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol sylw at y ffaith mai Cymru sydd â chyflogau isa'r DG, ar gyfartaledd. Mae'r ddadl yma, sy'n cymharu cyflogau'n fras heb gymryd cyfrifoldebau i ystyriaeth, yn un niweidiol iawn o ran denu'r arbenigwyr gorau o weddill y DG a thu hwnt.”

Mae cyflogau llawer o uwch swyddogion llywodraeth leol yn is na'r rhai ar gyfer sawl swydd uchel yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ac mae lle i ddadlau nad yw cyflogau llawer o swyddi o'r fath yn gymesur â'u cyfrifoldebau. Yn wir, mae rhai cyrff wedi gwrthod cyhoeddi faint mae'u prif swyddogion yn ei ennill, hyd yn oed ar ôl i geisiadau gael eu cyflwyno trwy Ddeddf 'Mynnu Gwybodaeth'.

Mae cyflogau prif weithredwyr awdurdodau lleol Cymru, ar gyfartaledd, yn is o lawer na rhai'r swyddogion cyfatebol yn Lloegr: e.e. £117,000 yng Nghymru o'i gymharu â £150,000 yn awdurdodau dinasol Lloegr. £106,000 oedd cyflog prif weithredwyr cynghorau'r gogledd-ddwyrain yn 2006, ar gyfartaledd, o'i gymharu â £161,000 yng Nghaer.

Mae gan uwch reolwyr awdurdodau lleol Cymru gyfrifoldeb ar y cyd am:

• cyllideb dros £5 biliwn;

• tua 160,000 o weithwyr, sy'n allweddol o ran ffyniant a lles y gymuned.

Y prif weithredwyr yw swyddogion uchaf llywodraeth leol ac maen nhw'n gyfrifol am dros 8,000 o staff a cyllidebau dros £200 miliwn, ar gyfartaledd. Maen nhw'n cynnal cannoedd o wasanaethau hanfodol gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd, casglu sbwriel, tai cyhoeddus, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, safonau masnach, datblygu/cynllunio economaidd ac yn y blaen. Ar ben hynny, mae arnyn nhw amryw gyfrifoldebau statudol lle – o fethu â'u cyflawni – fe fyddai cosb gyfreithiol. Er enghraifft, pennaeth y gwasanaeth cyflogedig yw'r prif weithredwr ac mae arno ddyletswydd gofal dros y gweithwyr i gyd. Mae'n 'rhiant corfforaethol' i'r plant sydd o dan ofal ei awdurdod ac mae'n gyfrifol am ddarparu ar gyfer unrhyw argyfyngau, hyrwyddo iechyd a diogelwch y gweithwyr a goruchwylio'r etholiadau.

Mae WLGA yn gofyn am astudiaeth debyg o gyflogau pob rhan o sector gwladol Cymru gan gynnwys uwch swyddogion y GIG, y gwasanaeth sifil a chyrff eraill mae'r trethdalwyr yn eu hariannu.

Ys dywed yr hen ddihareb, 'gofala fod carreg eich drws eich hun yn lân'. Felly, gofynnwn ni am ragor o dryloywder o ran y cyfryngau mae'r trethdalwyr yn eu hariannu yng Nghymru, yn anad neb, uwch weithredwyr y BBC – sefydliad sy'n talu mwy o gyflogau dros £100,000 nag unrhyw gorff cyhoeddus cyfatebol arall yn y DG.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl