Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Dyddiad i'w nodi: Hwyluso'r newid - Cyfrifoldeb ar y cyd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Dyddiad i'w nodi: Hwyluso'r newid - Cyfrifoldeb ar y cyd

11 Mehefin 2009

Cynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2009
17eg-18fed Mehefin 2009, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Gwesty'r Hilton, Caerdydd

Bydd y Prif Weinidog, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan, Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ymhlith y pwysigion fydd yn annerch dros 200 o bobl mewn cynhadledd genedlaethol i'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl y bydd arweinyddion arbenigol a gwleidyddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol yn mynegi eu barn mewn trafodaethau ymestynnol ac ysgogol ynglŷn â ffyrdd o wella'r gwasanaethau cymdeithasol mewn sefyllfa arbennig o anodd.

Mae'n deg dweud bod gofal cymdeithasol wedi'i archwilio'n fwy nag unrhyw faes arall dros y 6 mis diwethaf ac mae pwysau ar y cynghorau a'u partneriaid ym maes gofal cymdeithasol i wella gwasanaethau a deilliannau'n ddiymdroi i bobl sy'n agored i niwed er nad oes ond hyn a hyn o adnoddau ar gael. Mae partneriaeth gref a iach yr arbenigwyr a'r gwleidyddion yng Nghymru yn creu'r amgylchiadau priodol i ateb y problemau hyn, fodd bynnag.

Ddydd Mercher a dydd Iau nesaf, bydd y cynadleddwyr yn clywed barn amryw siaradwyr ynglŷn â gwella'r gwasanaethau cymdeithasol mewn nifer o themâu trawsbynciol.

Bydd rhai o'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau cymdeithasol yn sôn am eu profiad o ofal cymdeithasol, bydd arbenigwyr yn disgrifio'r anawsterau maen nhw'n eu hwynebu bob dydd a bydd arweinyddion gwleidyddol yn sôn am yr angen i gynnig gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf wahanol yn y dyfodol a chreu gofal cymdeithasol fydd yn helpu pobl i ffynnu.

Dyma rai o'r gwleidyddion ac arbenigwyr blaengar eraill fydd yno:

• Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru
• Robert Pickford, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
• Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru
• Y Cynghorydd Meryl Gravell, Llefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol
• Neelam Bhardwaja, Llywydd ADSS Cymru
• Keith Ingham, Cyfarwyddwr Polisïau Iechyd Plant/Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad
• Peter Ridsdale, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Cardiff City
• Mario Kreft, Prif Weithredwr Mygedol Fforwm Gofal Cymru
• Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru

Diben rhaglen y gynhadledd yw hyrwyddo'r syniad o wella gwasanaethau cymdeithasol Cymru ar y cyd a bydd yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai ac arddangosfeydd sy'n tynnu sylw at arferion lleol.

Dyma rai o'r prif feysydd sydd i'w trafod:

• Gwaith cymdeithasol: Galwedigaeth ar gyfer y dyfodol
• Diogelu oedolion sy'n agored i niwed: Pa mor ddiogel yw'ch defnyddwyr?
• Diogelu plant
• Gwasanaethau i blant: Y gamp o wneud pethau'n wahanol
• Atal hunanladdiadau a hunan-niweidio
• Galluogi pobl sydd ag anableddau dysgu
• Diogelu'r cyhoedd: Safbwynt rhywun sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd y meddwl
• Cymorth cyfun i deuluoedd: helpu plant sy'n agored i niwed a'u teuluoedd
• Cydweithio i wella gwasanaethau gofal iechyd parhaus
• Creu byd y gall pobl hŷn ffynnu ynddo

Bydd Achlysur Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2009 ddydd Iau 18fed Mehefin ar ôl y gynhadledd. Cyngor Gofal Cymru a phartneriaid eraill sydd wedi trefnu'r gystadleuaeth, sy'n bwysig ynglŷn â chydnabod a hyrwyddo llwyddiannau sefydliadau a thimau leded Cymru sydd wedi buddsoddi yn eu gweithluoedd er gwell gwasanaethau gofal cymdeithasol a deilliannau.

Mae Cynhadledd Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Achlysur Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2009 wedi'u trefnu i gyd-fynd â nifer o weithgareddau eraill sydd i'w cynnal ledled y wlad yn ystod Wythnos Gofal Cymdeithasol 2009 (15fed-19eg Mehefin).

Mae rhaglen Cynhadledd Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar: http://www.adsscymru.org.uk/index.cfm?articleid=3968

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl