Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Cynghorau Cymru wedi ymrwymo i gau’r bwlch ym mherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cynghorau Cymru wedi ymrwymo i gau’r bwlch ym mherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol

07 Rhagfyr 2009

Cafwyd galwad heddiw gan Brif Arolygydd Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar i awdurdodau lleol fynd i’r afael ag amrywiaeth mewn perfformiad ar draws y gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â gwella ystod ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Mewn ymateb i hyn dywedodd y Cyng. Meryl Gravell (Sir Gaerfyrddin), Llefarydd Gwasanaethau Cymdeithasol CLlLC:

 

“Mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn cydweithredu ers tro i ymdopi â’r pwysau ariannol cynyddol a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau. Yn wir, ceir dros 200 o brosiectau cydweithredol ledled Cymru lle mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn cydweithio’n agos i gyfnewid arfer da a chodi safonau perfformiad drwy fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth mewn perfformiad.

“Dros y misoedd diwethaf, mae CLlLC hefyd wedi cynnal amryw o drafodaethau gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ogystal ag AGGCC ynglŷn â’r angen i gyflymu’r broses o gydweithredu, ac mae gwaith ar droed i gyfnewid gwybodaeth am berfformiad ar draws y gwasanaethau oedolion yn ogystal â’r gwasanaethau plant ar raddfa leol a rhanbarthol”

 

Mae CLlLC ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r chwe awdurdod lleol ar draws ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru’n benodol er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth mewn perfformiad ar draws gwasanaethau plant. Nod prosiect “cau’r bwlch” yw codi safonau perfformiad a chau’r bwlch amrywiaeth rhwng y chwe awdurdod lleol sy’n cymryd rhan. Gwneir hyn drwy alluogi’r awdurdodau i gyfnewid gwybodaeth allweddol ynglŷn â’r modd y mae pob un ohonynt yn darparu ei wasanaethau, canfod pa ddulliau fu’n llwyddiannus i bob awdurdod a sut y gallant ddysgu y naill oddi wrth y llall er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol.

 

Prosiect arbrofol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yw hwn ar hyn o bryd, ond bwriedir iddo fod yn sail i gynnal ymarferion tebyg ar draws Gogledd Cymru, De- ddwyrain a De-orllewin Cymru, gan ddefnyddio’r wybodaeth a geir i greu darlun o berfformiad y gwasanaethau cymdeithasol ac ymagweddau tuag at ddarparu gwasanaethau yng Nghymru gyfan.

 

Er bod adroddiad AGGCC a gyhoeddwyd heddiw’n trafod yr angen am fwy o welliant, mae hefyd yn cydnabod gwelliannau a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf mewn meysydd craidd fel asesiadau, rheoli gofal ac adolygiadau.

 

Ychwanegodd y Cyng. Meryl Gravell:

 

“Mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn parhau i weithio’n ddyfal i amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed. Mae’r gwelliannau hyn yn digwydd yn wyneb cynnydd nas rhagwelwyd yn y galw am wasanaethau a setliadau gwael iawn gan lywodraethau lleol. Nid yw anghysondeb mewn perfformiad yn dderbyniol, ond ni fydd newid arferion ynddo’i hun yn ddigon i wella perfformiad, o ystyried y pwysau cynyddol ar adrannau gwasanaethau cymdeithasol a’r prinder mawr o arian. Bydd angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr arolygwyr a’r awdurdodau lleol eu hunain bennu targedau realistig ar gyfer gwella, gan fod prinder adnoddau’n fygythiad gwirioneddol a difrifol iawn i dwf a gwelliant yn y dyfodol.” 

 

Cefnogir prosiect “cau’r bwlch” CLlLC gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol.

 

Am gopi o adroddiad AGGCC a gyhoeddwyd heddiw ewch i: Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2008-2009

 

 

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl