Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Dyledion treth y cynghorau yn 2008-09
 

Dyledion treth y cynghorau yn 2008-09

22 Mehefin 2009

Meddai llefarydd ar ran WLGA:

“Dim ond o 0.2% y gostyngodd canran y trethi gasglodd cynghorau Cymru yn 2008-09 (96.4% yw'r cyfartaledd bellach, rhwng 94.5% ym Mlaenau Gwent a 98.3% yn Sir Benfro). O ystyried yr amgylchiadau economaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ganran honno'n gymharol gadarn er y bydd o dan bwysau dros y flwyddyn nesaf, yn ôl pob tebyg.

Mae'r cynghorau'n cydnabod bod arnyn nhw ddyletswydd ar ran trethdalwyr eu hardaloedd i ofalu bod pawb ddylai dalu trethi'n gwneud hynny fel y bydd modd ailfuddsoddi'r arian yn y gwasanaethau hanfodol. Mae'r cynghorau eisoes wedi gweld bod ffynonellau incwm eraill megis ffïoedd, taliadau a llog buddsoddiadau wedi crebachu o ganlyniad i'r dirwasgiad ac, ar y llaw arall, bod nifer y ceisiadau am fudd-daliadau a'r galw am wasanaethau megis cyngor am faterion tai wedi cynyddu.

Mae'r cynghorau'n gwybod bod eu cymunedau mewn sefyllfa anodd iawn ac, ynghyd ag WLGA, maen nhw wedi bod yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor ar Bopeth i lunio'r canllawiau gyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ddoe ynghylch arferion da casglu treth y cyngor. Nod y canllawiau yw awgrymu sut gallai'r cynghorau helpu pobl i roi eu taliadau a gofalu bod cymorth ariannol ar gael lle bo angen. Mae'r cynghorau'n gwneud eu gorau i ofalu bod pobl yn gwybod am fudd-dal treth y cyngor a sut mae'i hawlio, hefyd.

Yn ymateb i'r dirwasgiad, mae'r cynghorau'n cynnig mwy o wasanaethau cymorth ariannol nag erioed. Eu prif flaenoriaeth yw helpu pobl i leddfu sefyllfa ariannol anodd cyn bod arnyn nhw ormod o ddyledion. Mae cynghorau Cymru yn annog unrhyw ddinasyddion sy'n wynebu anawsterau ariannol i gysylltu â nhw am gyngor a gwybodaeth.”

< yn ôl