02 Hydref 2008
Mae gwasanaethau cynghorau Cymru wedi gwella'n gyson dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl ffigurau wedi'u cyhoeddi heddiw. Yn ôl y dangosyddion ar gyfer 2007-08, mae gwelliannau ar draws 71% o'r 183 mae modd eu cymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Meddai'r Cyng. Derek Vaughan (Castell-nedd Port Talbot), Dirprwy Arweinydd WLGA:
“Mae hyn yn llwyddiant go iawn. Mae'r ffigurau'n dangos bod byd llywodraeth leol yn parhau i wella ei wasanaethau bob blwyddyn er gwaetha'r ffaith bod mwy a mwy o ddisgwyl ymhlith y cyhoedd a'r adrannau gwladol; mae'r gwella ar draws 71.6% o'r dangosyddion yn ychwanegu at y 72% welon ni y llynedd.”
“Mae nifer o agweddau pwysig yn well, gan gynnwys gwasanaethau i blant, ailgylchu gwastraff, archwilio safleoedd lle mae perygl mawr o ran gwenwyn bwyd, cyrhaeddiad a phresenoldeb yn yr ysgolion, oedi ynghylch rhoi gwelyau ar gael yn yr ysbytai a phrosesu ceisiadau am grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl. Mae'r cynnydd yn dystiolaeth eglur o'r ffaith bod y cynghorau'n defnyddio'r dangosyddion i reoli a gwella eu gwasanaethau, yn arbennig ym mhob maes oedd yn destun pryder y llynedd.”
“Er y dylai fod yn falch o'i gynnydd, fydd byd llywodraeth leol ddim yn gorffwys ar ei fri am ein bod yn dal i wynebu nifer o heriau, yn arbennig ynghylch nifer y staff sy'n absennol trwy salwch a materion digartrefedd a thai fforddiadwy. Yn y sefyllfa ariannol bresennol ledled y byd, rhaid i gyrff llywodraeth leol a gwladol fel ei gilydd ddyfeisio atebion arloesol a chymryd camau'n ddiymdroi ynglŷn â thai fforddiadwy.”
Meddai'r Cyng. Russell Roberts (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd WLGA dros Faterion Gwella:
“Dim ond rhan o ddarlun cynghorau Cymru ynghylch gwella yw'r dangosyddion heddiw. Mae cyrff rheoleiddio annibynnol Cymru o'r farn bod y cynghorau'n gweithio'n well ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae rhai wedi ennill clod yr arolygwyr ym meysydd addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae canran y dinasyddion a'r defnyddwyr sy'n fodlon ar wasanaethau yn uchel o hyd ac mae nifer o gynghorau'r wlad wedi ennill cydnabyddiaeth mewn amryw gystadlaethau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er bod y pwysau ariannol yn cynyddu, mae byd llywodraeth leol yn parhau i ragori ar dargedau Llywodraeth y Cynulliad ynghylch effeithlonrwydd.”
“Mae'r dangosyddion yma'n dystiolaeth bod byd llywodraeth leol wedi ymrwymo i ddull agored a thryloyw o fod yn atebol i'r bobl am faint mae'n ei gyflawni. Mae'r wybodaeth i gyd ar gael ar wefan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru a bydd y cynghorau'n defnyddio'r wybodaeth honno bob dydd i hysbysu pobl a gwella prosesau cynllunio gweithredol.”
Ychwanegodd y Cyng. Vaughan:
“Bydd yn anodd parhau i wella am fod ein dyraniad ariannol blynyddol yn is na'r chwyddiant a bod costau ynni a thanwydd wedi cynyddu'n fawr, ond byddwn ni'n parhau i ofyn am ddyraniad ymarferol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”
Dyma rai o'r meysydd pwysig sydd wedi gwella yn ôl y dangosyddion:
• Cafodd 99% o'r safleoedd lle mae perygl mawr o ran gwenwyn bwyd eu harchwilio i ofalu eu bod yn lân ac yn ddiogel o'i gymharu â 91% yn 2006-07 (archwiliodd 14 awdurdod bob un o'r cyfryw safleoedd).
• Mae'r gwastraff sy'n cael ei ailgylchu neu ei gompostio wedi cynyddu o 4% (31.8% yw'r ganran bellach) o'i gymharu â'r llynedd.
• Mae gwelliannau sylweddol yn y gwasanaethau cymdeithasol, yn arbennig y rhai ar gyfer plant.
• Mae presenoldeb yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd wedi cynyddu ac mae nifer y disgyblion sy'n gadael yr ysgol ar ôl troi'n 16 oed heb yr un cymhwyster ffurfiol wedi gostwng oddi wrth 2.1% at 1.7%.
• Mae canran y cleifion sy'n dal yn yr ysbytai ar ôl gwella am nad oes lle arall iddyn nhw fynd iddo wedi gostwng at y lefel isaf ers 5 mlynedd.
• Mae nifer y diwrnodau ynghylch prosesu ceisiadau am fudd-daliadau a rhoi grantiau am gyfleusterau i'r anabl wedi gostwng yn fawr. (O 92 o ddiwrnodau yn yr ail – 453 o ddiwrnodau yw'r cyfartaledd presennol).
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
