Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Araith y Cyng. John Davies, Arweinydd WLGA, yn y Gynhadledd Flynyddol
 

Araith y Cyng. John Davies, Arweinydd WLGA, yn y Gynhadledd Flynyddol

09 Hydref 2008

Diolch i chi’r Gweinidog am eich geiriau caredig a’ch sylwadau. Mae’n bleser gennyf ymateb i’ch araith.

Rwyf am ddechrau’r gynhadledd heddiw trwy estyn croeso cynnes i’r holl gynadleddwyr. Nid wyf yn mynd i drafod gwleidyddiaeth yn syth. Rwyf am ddechrau trwy wneud nifer o sylwadau’n ymwneud â’r bobl yn yr ystafell hon a’r cymorth y maent wedi ei roi i WLGA ac i mi fel Arweinydd.

Mae’n anrhydedd ac yn syndod braidd i mi fy mod yn y sefyllfa hon. Roedd hanes am Seneddwr o Ffrainc a aeth i gysgu am hanner awr yn ystod trafodaeth a phan ddeffrôdd, canfu iddo gael ei wneud yn Brif Weinidog ddwywaith! Fel arweinydd grŵp mwyaf y Gymdeithas sy’n arwain at arweinyddiaeth WLGA, gwn sut y mae’n teimlo. Wedi dweud hynny, mae arwain WLGA yn dasg sydd â manteision helaeth, sef y cymorth a gaf gan fy nghydweithwyr. Nid wyf yn mynd i roi araith ddiflas am y ffordd y mae holl grwpiau WLGA yn gweithio mewn cytundeb ac yn rhoi buddion llywodraeth leol yn gyntaf. Mae hynny wedi bod yn ffaith er 2004 pan roddodd Alex Aldridge ac yna Derek Vaughan system yn ei lle â’r nod o sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae Meryl Gravell hefyd wedi bod yn hanfodol yn hyn o beth ac mae’n bleser gennyf wasanaethu gyda Derek a Meryl mewn tîm arwain cyfartal.

Yn ogystal â hynny, trwy weithio fel aelod annibynnol, rwy’n deall bod pethau rhyfedd wedi’u sefydlu a elwir yn “bleidiau gwleidyddol” ond rydym wedi cael ein bendithio gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol megis Dyfed Edwards, Gordon Kemp, Rodney Berman a Derek unwaith eto sydd yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac sy’n darparu’r cefndir hanfodol i’n gwaith fel un o’r sefydliadau gwleidyddol mwyaf aeddfed ac effeithiol yng Nghymru.

Pa dystiolaeth sydd gennyf i gefnogi’r ddadl hon? Fy ateb yw bod hyn yn amlwg yn y ffordd y mae ein cymdeithas yn gweithio gyda’n hawdurdodau a theulu ehangach llywodraeth leol fel partneriaeth sy’n arwain at welliant sylweddol ar gyfer ein cymunedau. Mae’r enghreifftiau yn niferus –

• Ni oedd penseiri adolygiad Beecham y byddwn yn ei drafod yn fanwl yfory.

• Rydym wedi rhoi pwyslais newydd ar gefnogi’r Gwasanaethau Cymdeithasol fel un o’n gwasanaethau mwyaf, gan sefydlu’r asiantaeth wella a gweld adolygiadau ar y cyd rhagorol o Gastell-nedd Port Talbot i Sir Fôn a’r trawsnewid eithriadol ym Mlaenau Gwent

• Unwaith eto, mae ein Dangosyddion Perfformiad ar gyfer 2007-08 yn dangos gwelliant parhaus ar y cyfan, gyda 71.6% o’r dangosyddion cymharol yn dangos gwelliant o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adeiladu ar gynnydd y llynedd, pan oedd gwelliant yn 72% o’r dangosyddion

• Mae arolygiadau Estyn wedi cydnabod safonau newydd mewn ansawdd addysgol. Eleni, cyflawnwyd canlyniadau rhagorol yng Nghasnewydd ac er gwaetha’r anawsterau y cafodd arolygwyr yn teithio ar hyd yr A40, gwnaeth fy awdurdod i yn dda iawn! Rydym hefyd wrth ein bodd bod awdurdod Addysg Sir Ddinbych, o dan arweiniad Huw Evans, yn dangos cynnydd arwyddocaol a chyflym ar ei daith i wella.

• Rydym wedi llanw’r bwlch a adawyd trwy ddiddymu cwangos a sefydlu fframwaith i gefnogi’r digwyddiadau diwylliannol allweddol yng Nghymru yn amrywio o’r Urdd, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol gan arwain at rai o’r digwyddiadau mwyaf llwyddiannus dros y blynyddoedd diweddar yn Abertawe, Sir y Fflint a Chaerdydd.

• Rydym yn rheoli ein cyllid yn gaeth heb fod yn atebol am ddiffyg na gorfod cael ein hachub, ac yn y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi gweithredu’r cynnydd isaf yn y dreth gyngor ers dechrau datganoli.

• Rydym wedi mynd y tu hwnt i’r effeithlonrwydd sy’n ofynnol yn ôl agenda Creu’r Cysylltiadau

Ceir manylion am hyn a mwy yng nghyhoeddiad rhagorol WLGA “y gwir ar gael” a cheir tystiolaeth bellach o lywodraeth leol yn croesawu cydweithredu yn XXXX sydd i gael ei gyhoeddi yn y gynhadledd hon. Yn sicr, mae lle ar gyfer gwella bob amser, ond mae’r rhain oll yn gyflawniadau gwirioneddol.

Pam felly yr wyf yn pwysleisio’r pwyntiau hyn? A yw er mwyn ymffrostio neu a yw am nad yw’r cynnydd hwn yn cael ei gydnabod ddigon? Roeddwn wrth fy modd yr wythnos diwethaf o glywed sylwadau Brian yn y Western Mail am berfformiad awdurdodau lleol ac rwyf yn diolch iddo am hynny. Fodd bynnag, ymddengys mewn rhai rhannau o lywodraeth y Cynulliad bod yr hyn yr wyf yn ei ddisgrifio fel barn Gwragedd Stepford am lywodraeth leol yn dod i’r amlwg. Rydych wedi clywed y ddadl sawl gwaith ac yn ei gwybod yn dda. Felly yn 22 o’r sefydliadau mwyaf cymhleth, astrus ac anodd i’w rheoli yng Nghymru, dywedir wrthym bod yn rhai i bopeth fod i’r dim, yn llariaidd ac yn ddigynnwrf. Os os â unrhyw beth o chwith rydym oll yn cael ein condemnio ac yn clywed nad yw’r hyn a wnawn yn ddigon da neu’n fwy hynod, bod angen i’r Cynulliad gymryd drosodd!

Enghraifft – Arweiniodd adroddiad anodd ond gonest a luniwyd yn fewnol i’w archwilio’n fanwl yn y pwyllgor perthnasol yng Nghyngor Caerdydd at alwad i’r gwasanaethau cymdeithasol wynebu ymyriad gan y Cynulliad a chael eu rhedeg ganddynt hyd yn oed. Gadewch i mi ofyn cwestiwn perthnasol, pwy yn y Cynulliad fyddai’n gwneud hyn ac os yw’r arbenigedd ar gael ym Mharc Cathays, efallai y gellid ei rannu cyn i bethau fynd o chwith? Fel y mae pethau, rydym yn cael ein beirniadu pan wyddom nad oedd gofal cymdeithasol yn ymddangos rhyw lawer yn y ddogfen “Cymru’n Un”, mae wedi dioddef statws isel yn y gwasanaeth sifil ac wedi chwarae mân ran yn nrama gwleidyddiaeth Cymru o dan gysgod rhywbeth llawer mwy a elwir yn iechyd. Yn anffodus, mae cyllideb ddrafft y Cynulliad yr wythnos hon yn atgyfnerthu’r duedd hon.

Rwy’n gorbwysleisio’r pwynt, ond onid yw derbyn, mewn 22 set o wasanaethau rheng flaen cymhleth fel addysg, gofal cymdeithasol a thai, y bydd pethau yn mynd o chwith, a phan fyddant, cydweithio i’w datrys, yn arwydd o bartneriaeth aeddfed? Mae cynghorau yng Nghymru yn gwneud dros 600 o swyddogaethau ar wahân ac, yn wahanol i Lywodraeth y Cynulliad, rydym yn gwneud rhai camgymeriadau. Da o beth yw mantra o welliant parhaus, ond mae gennym ni ddewisiadau anodd ac efallai y gwelwn rai gwasanaethau yn mynd ar ei hôl hi ychydig wrth i ni geisio amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen hynny. Unwaith eto, rwyf yn ddiolchgar i Brian am gydnabod hyn yn llawn heddiw ac yn y Western Mail.

Pwynt arall o ran partneriaeth aeddfed dwi’n siwr yw cyfrifoldeb ar y cyd am benderfyniadau allweddol. Rwyf yn talu teyrnged i’r awdurdodau hynny sy’n ymrafael â chwestiwn dadleuol lleoedd dros ben mewn ysgolion. Gwn i drafodaeth ragorol ar hyn gael ei chynnal yr wythnos ddiwethaf ym Mwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru, lle mae’r chwe chyngor yn ceisio cydweithio ar y mater dadleuol hwn. Ond unwaith eto, mae safonau dwbl yn y drafodaeth. Ar un ochr mae’r galw parhaus am fwy o adnoddau mewn addysg gan ACau ond pan rydym yn ceisio cyflawni hyn trwy ymdrin â mater lleoedd dros ben mewn ysgolion, mae’r un ACau yn sefyll ar linellau piced yn ceisio cadw ysgolion sydd mewn sawl achos yn rhai aflwyddiannus ac nad ydynt yn talu’r ffordd.

Roedd yn bleser gan WLGA gefnogi’r Cynghorydd Dyfed Edwards mewn trafodaeth danbaid yn ddiweddar yng Ngwynedd am ei fod yn iawn. Roeddwn hefyd wrth ein bodd i weld bod ein cyfaill mawr, Dafydd Ellis Thomas, sy’n deall gwerth cysylltiadau lleol canolog da, yn cefnogi’r mater hwn yn llawn. Unwaith eto heddiw, mae WLGA yn galw am drafodaeth genedlaethol am ddyfodol ysgolion yng Nghymru, yn rhydd o ystyriaethau pleidiau gwleidyddol er mwyn amlygu pam y mae’n rhaid gwneud penderfyniadau o’r fath yn ymwneud â rhesymoli ysgolion ac i atgyfnerthu’r neges mai cynaladwyedd addysg plant sydd wrth wraidd y drafodaeth hon ac nid poblogrwydd gwleidyddol yn y tymor byr.

Mae’n rhaid i mi hefyd fynd i’r afael â chyllid a chyllidebau yng ngoleuni y cyhoeddiad yr wythnos hon. Dros y mis diwethaf rydym wedi gweld ein marchnadoedd ariannol yn chwalu. Mae Warren Buffet wedi sôn am “pearl harbour economaidd”. Roedd y papurau dydd Sul yr wythnos hon yn llawn trafodaeth am gynnydd mewn diweithdra a dirwasgiad. Ac mewn hinsawdd o’r fath cawn ein hatgoffa o eiriau Franklin D Roosevelt mai “optimydd ffôl yn unig a all wadu gwirionedd tywyll y foment”.

Yr hyn y golyga hyn i gyllid cyhoeddus yn y DG, a Chymru’n fwy uniongyrchol, fydd cyfnod anodd. Mae WLGA yn derbyn y gostyngiad yng ngrant bloc y Cynulliad ac yn cydnabod bod y blynyddoedd da wedi dod i ben. Yr hyn sydd ei angen arnom yn yr hinsawdd hwn yw tegwch, dealltwriaeth iawn o’n pwysau a chydnabyddiaeth pe na byddai’r arian ar gael, ein bod yn “callio” ac yn canolbwyntio ar y pethau sydd yn bwysig. Yn dilyn problemau’r llynedd, dengys y trafodaethau cynhyrchiol iawn a gawsom yn ddiweddar gyda Jane Hutt ar y cyfnod sylfaen ni ar ein gorau pan fydd y Cynulliad a llywodraeth leol yn creu dealltwriaeth gyffredin ac achos ar y cyd.

Dywedodd John Maynard Keynes un tro “Cyfalafiaeth yw’r gred ryfeddol y bydd y dyn mwyaf drygionus yn gwneud y pethau mwyaf drygionus er budd pawb”. Mae’r ddamcaniaeth, wrth gwrs, wedi mynd i’r wal.

Yn yr hinsawdd hwn, yn enwedig yng nghyd-destun economi Cymru gyda’i phresenoldeb sector cyhoeddus enfawr, fe ddylwn geisio leihau effeithiau llym y sefyllfa economaidd wael. Golyga hyn bod yn rhaid i lywodraethau gael diffygion pan fydd yr economi yn arafu. Mae Gordon Brown ac Alistair Darling wedi derbyn hyn. Ond beth am Lywodraeth y Cynulliad, a allai chwarae rôl allweddol?

Mae gennyf rai awgrymiadau a chwestiynau -

AWGRYMIADAU
• Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn ddiweddar yn gofyn am ailystyried haen uchaf effeithlonrwydd y setliad, sef £38m, ac i lywodraeth leol gadw hyn yn yr un modd ag y mae’n cyfoedion yn yr Alban wedi trafod trwy eu concordat â’u gweithrediaeth. Yng ngeiriau Gordon Brown “yn yr amgylchiadau unigryw hyn mae’n iawn benthyg a chodi gwariant y cyhoedd”

• Yn yr un ffordd ag y mae gennym grant amddifadedd, mae angen grant teneurwydd sy’n berthnasol i bob awdurdod ond sy’n cael effaith benodol mewn ardaloedd gwledig. Nid oes unrhyw elfen o deneurwydd yn fformiwla’r gwasanaethau cymdeithasol ac mae pwyllgor gwledig y Cynulliad wedi cydnabod cost ychwanegol mynediad i wasanaethau yn llawn mewn ardaloedd gwledig mawr.

• Mae rhoi terfyn isaf o 1.5% i 3 awdurdod yn unig fel rhoi plastr ar glwyf enfawr. Dylid fod wedi ei gadw ar lefel y llynedd, sef 2%, o leiaf, ond bydd WLGA unwaith eto yn cyflwyno cyllideb amgen i ddadlau dros mwy o adnoddau ar draws yr holl gynghorau.

• Rydym wedi cytuno gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru a SOLACE i fapio canlyniadau lleihau cyllidebau yn barhaus i wasanaethau llywodraeth leol a chynnal astudiaeth yn y tymor hwy o effaith lleihau CSRs ar wasanaethau cynghorau. Rydym yn gwahodd llywodraeth y Cynulliad i wneud y gwaith hwn gyda ni.

• Gall chwyddiant ostwng y flwyddyn nesaf ond am nawr mae costau cynyddol fel ynni a thanwydd yn bygwth cyflwyno gwasanaethau. Mae costau contract ar nwy a thrydan yn codi hyd at 100%. A allwn ni gael trafodaeth go iawn ar sut i ddod trwy hyn heb fod yn atebol am y galw safonol am fwy o gydweithredu fel “magic bullet”. Ni fydd yr olaf yn cyflwyno’r adnoddau ar y lefel angenrheidiol o ran graddfa nac amser a fydd yn datrys y broblem uniongyrchol hon.

CWESTIYNAU
• A allwn ni sefydlu concordat sy’n cyfundrefnu ein partneriaeth â’r Cynulliad ac sy’n derbyn argymhelliad allweddol Beecham nad yw’n neilltuo rhai o’r grantiau o £642m y tu hwnt i’r setliad.
• A allwn gael mwy o dryloywder mewn cyllid cyfalaf sy’n mynd at argyfwng yn ein hysgolion ac asedau eraill. Efallai fod y broses y tu ôl i’r Bwrdd Strategol Buddsoddi Cyfalaf yn cael ei ddeall yn y Cynulliad ond nid yw wedi cael ei gyfleu’n iawn y tu hwnt i Fae Caerdydd.
• A ellir ailddatgan cytundeb ar gyllido cyfrifoldebau newydd wedi ei sefydlu mewn concordat cwbl weithredol. Fel y mae, rwyf yn rhoi rhybudd heddiw os nad yw’r Mesurau ar feysydd chwarae a bwyta’n iach yn cael eu derbyn, bydd angen lefelau adnoddau newydd sylweddol ar y rhain.

I gloi, mae llywodraeth leol yn gweld peryglon mewn rhai mannau bod gwawdlun gwirioneddol yn dod i’r amlwg yn y ddadl ar ddatganoli yng Nghymru. Ymddengys mae’r dybiaeth y tu ôl i hyn yw bod prosiect gwleidyddol cyfansoddiadol di-fai ac aruthrol sydd wedi dod yn obsesiwn cenedlaethol ar gyfer yr elît gwleidyddol yn CF 99. Ar yr ochr arall ceir ystod o wasanaethau braidd yn ddi-liw a diflas fel iechyd yr amgylchedd, golau strydoedd, diogelwch cymunedol a gofal cartref sydd y tu hwnt i’r radar. Ond gwae chi os ydych yn anwybyddu’r gwasanaethau hyn. Fy neges allweddol heddiw yw bod llwyddiant datganoli yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus da. Os ydym yn gwerthfawrogi byd llywodraeth leol ac ymddiried ynddo, fe wnaiff gyflawni.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl