Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Bwriad byd busnes a llywodraeth leol i gydweithio
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Bwriad byd busnes a llywodraeth leol i gydweithio

16 Medi 2008

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Chydffederasiwn Diwydiannau Prydain (CBI) wedi cytuno am y tro cyntaf i gydweithio i wella a hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ddau gorff wedi llofnodi memorandwm dealltwriaeth sy'n pennu eu delfryd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r datganiad yn dangos bod byd llywodraeth leol a'r sector preifat am gydweithio i ddyfeisio ffyrdd effeithlon, arloesol a chynaladwy o gynnig gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon.

Mae byd llywodraeth leol Cymru yn gwario £2.4 biliwn yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a nod y cydweithio yw gwella prosesau caffael i roi'r gwasanaeth gorau a gwerth arian.

Mae'r memorandwm yn amlinellu'r cytundeb o ran y bartneriaeth, yr egwyddorion a'r camau sydd i'w cymryd ar y cyd.

Meddai'r Cyng. John Davies, Arweinydd WLGA, “Byd llywodraeth leol yw arweinydd naturiol proses diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus ac mae'i flaenoriaethau'n cyd-fynd â rhai'r sector preifat yn barod mewn sawl maes megis cludiant, medrau, cynnig gwasanaethau cyhoeddus a lleddfu diweithdra."

“Rydyn ni am ddyfeisio ar y cyd ffyrdd newydd o weithio fel y bydd gwasanaethau'n fwy fforddiadwy a chynaliadwy ac y bydd gwell cydweithio ymhlith awdurdodau.”

Meddai David Rosser, Cyfarwyddwr CBI Cymru, “Ar ran sector masnachol Cymru, mae'r CBI yn ymrwymo i gydweithio â byd llywodraeth leol i ddyfeisio ar y cyd atebion a ffyrdd newydd o weithio er gwerth arian, fforddiadwyedd a chynaladwyedd."

“Mae'r ddau gorff yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gweithlu'r sector cyhoeddus at economi Cymru ac edrychwn ni ymlaen at roi ein cytundeb ar waith er lles cymunedau a dinasyddion y wlad.”

Mae'r ddogfen yn amlinellu'r camau mae bwriad eu cymryd i feithrin partneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat fydd yn lledaenu syniadau arloesol a'r arferion gorau, yn ogystal â sefydlu trefniadau cydweithio i dynnu sylw at gyfraniad partneriaethau o'r fath ynglŷn â gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd cyfarfod cyntaf CBI Cymru ac WLGA i fwrw ymlaen â'r cytundeb fis Hydref.

Cafodd y cytundeb ei lofnodi nos Lun 15fed Medi mewn cinio gyda Chadeirydd BT, Syr Mike Rake.

Mae gan gwmni BT gysylltiadau cryf â'r sector cyhoeddus ac mae wedi sefydlu nifer o bartneriaethau strategol i wella gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Er enghraifft, mae BT yn cydweithio â Chyngor Dinas Caeredin i roi'r dechnoleg, y bobl a'r prosesau ar gyfer prosiect trawsnewid y ddinas. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu dros ddeng mlynedd yn ôl egwyddorion rhannu risgiau a manteision, fel y gall y cyngor fuddsoddi rhagor i godi safon ei wasanaethau trwy ddatblygu a gwella technoleg.

Yn ôl y cytundeb, BT dalodd am y gwaith ac fe gyfrannodd y cyngor rywfaint at hynny. Felly, mae'r cyngor yn cael manteisio ar sustem newydd sbon heb orfod talu amdani ymlaen llaw a bydd BT yn codi tâl am bob trafodyn trwy'r sustem honno i adennill ei gostau yntau.

Meddai Ann Beynon, Cyfarwyddwr BT dros Gymru, “Gan fod llai o arian i'w wario yn y sector cyhoeddus, y ffordd ymlaen yw gweithio ar y cyd â'r sector preifat."

“Mae BT yn ymwneud â nifer o bartneriaethau pwrpasol ac arloesol ledled y DG sydd wedi profi bod partneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yn gallu llwyddo. Rydyn ni wedi dangos y manteision y gallan nhw eu rhoi i gymunedau o ran gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy – a faint y gall awdurdodau lleol ei arbed o ran costau ac amser eu rheolwyr.”

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl