Mae’n rhaid i fand eang ddod yn ‘bedwerydd cyfleustod’ Cymru, yn ôl llywodraeth leol Cymru
30 Ionawr 2009
Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi croesawu’r adolygiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd i wneud cynlluniau fel y gall band eang ddatblygu’n wasanaeth cyffredinol i bawb. Croesawyd yn benodol y posibilrwydd o £1biliwn o fuddsoddiad yn yr economi wledig ddigidol ar draws rhanbarthau Ewrop, gan gynnwys Cymru.
Yn ôl y Cyng. Bob Bright, aelod WLGA ar Bwyllgor y Rhanbarthau (CoR) ac aelod etholedig ar Gyngor Casnewydd:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam hanfodol ymlaen wrth gysylltu cymunedau lleol ar draws Ewrop. Ar ben hynny, mae’n rhan o gynllun ehangach CoR i ddod â band eang i bob cartref yn y 27 o aelod-wladwriaethau erbyn 2012. Yn yr Ewrop sydd ohoni lle bydd busnesau ac unigolion yn dibynnu cymaint ar dechnoleg, mae’n rhaid i fand eang fod yr un mor hawdd i’w ddefnyddio â’r un cyfleustod arall. Rhaid iddo gyflawni rôl y ‘pedwerydd cyfleustod.”
“Mae band eang yn hanfodol o ran swyddi a’n heconomi ddigidol yn y dyfodol, yn enwedig yn y Gymru wledig lle ceir llefydd rif y gwlith lle does dim cysylltiad i’w gael. Bydd yr adnoddau ychwanegol hyn o’r UE, fydd yn cael eu sianelu gobeithio drwy Raglen y Cronfeydd Strwythurol a’r Cynlluniau Datblygu Gwledig, yn hollbwysig yn y gwaith o gynnal economi ddigidol yr ardaloedd difreintiedig hyn i’r dyfodol.
Dyma ddywedodd y Cyng. Cheryl Green (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd WLGA dros E-Lywodraeth: “Mae llywodraeth leol Cymru yn cydnabod pa mor allweddol yw’r technolegau hyn er budd ein heconomi leol ac rydym yn cefnogi cynllun y CoR yn llwyr. Dw i’n gobeithio’n fawr y gall y fenter newydd hon gan yr UE ysgogi cynlluniau uchelgeisiol i Gymru, ar yr adeg pan fydd eu hangen fwyaf.”
Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn ymateb yn ffurfiol i set o gynigion yr UE i adolygu cyfarwyddeb 2003 y Gwasanaethau Cyffredinol sy’n gofalu y bydd rheoleiddwyr megis OFCOM ym mhob un o’r aelod-wladwriaethau yn gwarantu llinellau ffôn, llyfrau ffôn a rhifau argyfwng i bawb.
Mae Fforwm Gwledig WLGA wedi trafod mater yn hir. Mae’r Fforwm yn dal i bryderu, yn absenoldeb gwasanaethau band eang effeithiol, bod pobl sy’n byw a gweithio yn y Gymru wledig o dan anfantais fawr, yn enwedig o ystyried y dirywiad yn yr economi ar hyn o bryd.
Bydd y Cyng. Bright yn cyflwyno ei adroddiad terfynol i’w gymeradwyo gan y 344 o aelodau o Bwyllgor y Rhanbarthau (CoR) yn y sesiwn lawn ddydd Gwener 12fed Chwefror.


