Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Cyllideb arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad – dim digon da, yn ôl WLGA
 

Cyllideb arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad – dim digon da, yn ôl WLGA

07 Hydref 2008

Mae'r gyllideb arfaethedig gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad heddiw a'r cynnydd o 2.8% i fyd llywodraeth leol yn dangos eto nad yw gwasanaethau cyhoeddus allweddol Cymru yn cael chwarae teg yn y drefn wedi'i datganoli.

Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:

“Mae byd llywodraeth leol yn cydnabod bod coffrau'r wlad wedi crebachu dros y blynyddoedd diwethaf a bod Llywodraeth y Cynulliad yn wynebu dewisiadau anodd, ond bid a fo am hynny, dyw'r dewisiadau sydd orau ganddi ddim o les i bobl Cymru, sy'n gwerthfawrogi eu gwasanaethau lleol."

“Does dim modd cymharu cynnydd byd llywodraeth leol â'r 5.3% ar gyfer y GIG fydd, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn cael mwy na chyfradd y chwyddiant o dipyn heb sôn am y dyledion gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi'u dileu. Dyna lawer mwy na'r hyn fydd yn mynd i wasanaethau mwyaf anghenus byd llywodraeth leol megis y gwasanaethau cymdeithasol, tai a'r ysgolion. Allwn ni ddim deall pam mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi cyn lleied o bwysigrwydd i fyd llywodraeth leol ymhlith gwasanaethau cyhoeddus y wlad gan fod yr holl dystiolaeth yn dangos bod ein gwasanaethau'n hanfodol i ansawdd bywydau ein cymunedau. O fuddsoddi rhagor yng ngwasanaethau byd llywodraeth leol, efallai y bydd llai o alw am wasanaethau'r GIG.

“Un peth i'w groesawu yn y gyllideb heddiw, fodd bynnag, yw bod rhagor o arian wedi'i neilltuo ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae WLGA wedi cydweithio'n agos a'r Gweinidog, Jane Hutt, yn ddiweddar i'w helpu i bennu'r costau a dyma ddiolch iddi am ei hymdrechion. Ar ôl problemau'r flwyddyn ddiwethaf, mae hyn yn ein dangos ni ar ein gorau – gan weithio ar y cyd i fynd i'r afael â mater o bwys a gofalu bod digon o arian i'r cynllun arloesol hwn."

"Yn yr amgylchiadau hynod anodd hyn, mae byd llywodraeth leol yn ceisio ei orau glas i gadw treth y cynghorau o dan cyfradd y chwyddiant, sy'n nesáu at 5%. Dydyn ni ddim am ofyn i'n cymunedau dalu rhagor yn ystod caledi economaidd lle mae teuluoedd yn wynebu cynnydd enfawr ym mhrisiau trydan a nwy. Dyma amgylchiadau arbennig o ymestynnol i fyd llywodraeth leol ac mae rhai penderfyniadau anodd iawn o flaen y cynghorau. Hoffen ni weld y dyraniad i fyd llywodraeth leol yr wythnos nesaf cyn gofyn am drafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad i bennu ffordd o ymdopi â'r problemau economaidd presennol a'r rhai sydd i ddod. Heddiw, rydyn ni wedi dadlau o blaid amryw gynigion mae angen eu hystyried yn fater o frys.”

Meddai'r Cyng. Rodney Berman (Caerdydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:

“Bydd dyraniad pob cyngor yng Nghymru yn is o lawer na chyfradd y chwyddiant sydd bron 5% erbyn hyn. Yn ôl cyllideb ddangosol y llynedd, fydd dim cynnydd mewn gwirionedd i gynghorau yn yr ardaloedd tlotaf megis Blaenau Gwent a Thor-faen, cynghorau yn y gogledd megis Conwy, Ynys Môn a Gwynedd a rhai'r canolbarth am na all yr hyn a hyn o arian ychwanegol ar gyfer byd llywodraeth leol wneud iawn am effaith enfawr y chwyddiant ar wasanaethau lleol. Fydd y £10 miliwn ychwanegol ddim yn ddigonol i wneud iawn am y cynnydd yng nghost olew dros y flwyddyn ddiwethaf a chan y bydd cytundebau nwy a thrydan ledled Cymru yn codi o 100%, dim ond diferyn yn y bwced yw hyn. Efallai yr hoffai Llywodraeth y Cynulliad ddweud wrthyn ni pa feysydd ddylai fod ar eu colled a gohirio hefyd y mentrau drud mae'n disgwyl i fyd llywodraeth leol eu rhoi ar waith heb ddigon o arian. Mae gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn codi sgwarnog wrth ddadlau bod cynghorau Cymru yn gallu ymdopi â'r chwyddiant trwy gydweithio. Gan nad oes disgwyl i'r GIG wneud yr un fath, pam mae'n mynnu i fyd llywodraeth leol wneud hynny?”

Meddai'r Cyng. Michael Jones (Powys), Dirprwy Lefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:

“Dyma ergyd fawr arall i gefn gwlad Cymru. Mae penderfyniad Cyngor Sir Powys i gwtogi ar oleuo'r strydoedd wedi tynnu llawer o sylw. Dyna'n ffordd ni o ddweud na allwn ni barhau i ehangu gwasanaethau yn y sefyllfa bresennol a bod y pwysau sydd yn yr economi ehangach yn effeithio ar fyd llywodraeth leol, hefyd. Mae WLGA yn gofyn am grant arbennig i awdurdodau gwledig, sy'n cael eu hanwybyddu yn aml yn y Cynulliad.”

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl