Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Datblygu trafnidiaeth gynaliadwy
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Datblygu trafnidiaeth gynaliadwy

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Strategaeth a rennir ar gyfer trafnidiaeth a fyddai’n llywio Cynllun Seilwaith Cenedlaethol
  • Dileu neilltuo cyllid er mwyn cael hyblygrwydd ar gyfer arloesi lleol
  • Cyllidebau tair blynedd ar gyfer Consortia Trafnidiaeth Ranbarthol i wella cynllunio, arloesi ac ymatebion hyblyg
  • Eglurder ynghylch sut i fodloni’r targedau lleihau carbon ar gyfer trafnidiaeth
  • Cynnal y cynllun tocynnau teithio rhatach fel cyfrifoldeb ariannu Llywodraeth Cymru.

Cefndir:

Mae llywodraeth leol yn cydnabod y bydd datblygu trafnidiaeth well a mwy cynaliadwy yng Nghymru yn allweddol i adfywio economaidd a’i fod felly’n flaenoriaeth uchel. Mae angen mynediad i adnoddau, mynediad i lafur a mynediad i farchnadoedd cynnyrch ar fusnes llwyddiannus. Nid yw unrhyw leoliad â mynediad cyfyngedig yn debygol o ddenu buddsoddiad ac ni fydd yn gallu cystadlu yn yr economi fyd¬eang.

Mae mynediad a thrafnidiaeth hefyd yn hanfodol i adfywio cymunedau, mynd i’r afael â thlodi, cyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, cyfleoedd addysg a hyfforddiant a datblygiadau tai o ansawdd.

Mae llywodraeth leol yn cydnabod nad oes angen mwy o symudedd i gael mynediad gwell. Mae angen strategaethau cynllunio cynaliadwy, call sy’n cysylltu’r marchnadoedd yn well ar gyfer llafur, cyfalaf a chynnyrch heb gynyddu maint y teithio bob tro. Mae cydweithredu ar Gynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol wedi galluogi’r ffactorau hyn i gael llawer mwy o ystyriaeth gan gynghorau ar lefel strategol, yn gysylltiedig â Chynllun Gofodol Cymru. Mae gwaith y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar ranbarthau Carbon Isel yn bwysig i’r perwyl hwn. Yn yr oes heriol hon o gyfyngiadau ariannol, mae angen i ni arloesi gyda’n strategaethau trafnidiaeth. Wrth baratoi ar gyfer y dyfodol, gallai hyn gynnwys rhaglenni wedi eu cynllunio o gynnal a chadw priffyrdd, cryfhau pontydd, gwella cyffyrdd, parcio a theithio, coridorau bysiau, lonydd beicio, Systemau Trafnidiaeth Deallus, pwyntiau ‘ategion’ trydan, safleoedd gwasanaeth LPG a chyfleusterau porthladd newydd.

Bydd angen i ni wella mynediad ar gyfer busnesau a dinasyddion heb ddibynnu ar ddefnyddio mwy o’n ceir. Allyriadau carbon deuocsid sy’n cyfrannu fwyaf at newid yn yr hinsawdd. Mae trafnidiaeth ar y ffyrdd yn gyfrifol am tua chwarter yr holl allyriadau (13% o geir). O 2011 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon yn gyffredinol o 3% y flwyddyn mewn meysydd lle mae’r cyfrifoldeb wedi ei ddatganoli, yn cynnwys trafnidiaeth. Gan edrych i’r dyfodol, bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at dywydd eithafol amlach, fydd yn gofyn am fwy o adnoddau i ymdrin â llifogydd/mwy o ofynion cynnal a chadw yn ystod y gaeaf.

Gall trafnidiaeth gynaliadwy gyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd ac ansawdd bywyd trwy ddefnydd gwell o dir, diogelwch gwell, lleihau carbon ac effeithlonrwydd ynni. Mae rheoli prosiectau’n well yn annog llai o wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau gwell. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn yn gynyddol wrth i aelwydydd geisio ymdopi gyda llai o geir. O ganlyniad i’r cynllun tocynnau teithio rhatach, mae gweithredwyr wedi buddsoddi yn eu fflyd ac amlder eu gwasanaethau er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth, sy’n gwneud hyn yn opsiwn mwy deniadol. Mae cyfleoedd buddsoddi i arbed yn bodoli, sydd yn annog ystyried costau ‘bywyd cyfan’ / holistaidd (e.e. lampau stryd sy’n defnyddio ynni yn effeithlon; cynnal a chadw gwell i leihau hawliadau). Mae cyfraddau llog isel ar hyn o bryd yn gwneud benthyg yn fwy deniadol ar gyfer buddsoddi yn gwella seilwaith trafnidiaeth.