Mae datblygu sefydliadau’n ymwneud â
- cyflwr y sefydliad;
- effeithiolrwydd;
- y gallu i ddatrys problemau;
- y gallu i addasu a newid;
- y gallu i roi amodau gwaith o’r radd flaenaf i’r gweithwyr.
Mae gwaith datblygu sefydliadau’n defnyddio nifer o strategaethau er mwyn helpu sefydliad i hwyluso dysgu neu unrhyw faes arall lle mae angen help.
Dyma’r camau sy’n gysylltiedig â’r maes
1. Asesu anghenion
2. Asesu cyflwr
3. Llunio
4. Rhoi ar waith
5. Gwerthuso
Asesu anghenion a chyflwr
Mae’n rhaid asesu cyflwr y sefydliad yn drylwyr cyn datrys ei broblemau. Mae’r asesiad yma’n seiliedig ar asesu anghenion fel arfer. Gall yr asesiad yma o anghenion gynnwys un o’r dulliau canlynol i gasglu gwybodaeth neu gyfuniad ohonyn nhw.
- Cyfweliadau;
- Cylchoedd trafod;
- Holiadur;
- Asesiad hollgynhwysfawr.
Ar ôl pennu angen y sefydliad, mae amrywiaeth o ddulliau a rhaglenni ar gael i gynorthwyo (gyda chymorth y Gymdeithas, os oes angen) megis
- gweithio mewn carfanau;
- cynllunio strategol;
- datrys problemau mewn cylchoedd;
- cyfarfodydd wyneb yn wyneb;
- gosod targedau;
- ymgyfuno sustemau (h.y. rheoli cyflawniad, adnoddau dynol, cyfathrebu, arwain, ac ati);
- cymorth gan gorff allanol;
- dysgu gan gymheiriaid;
- hyfforddi personol;
- mentora;
- hyfforddi.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford
