Mae gan awdurdodau lleol ar draws Gymru ddiddordeb yn nifer eang o faterion yn y sector amaethyddol ac yn y datblygiad ehangach o economiau wledig, cymunedau ac amgylcheddau. Mae'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC) yn werth dros £350 miliwn i fusnesau amaeth Cymru yn flynyddol, ac yn helpu'r economiau a'r cymunedau gwledig yn frasach. Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) ar gyfer Cymru 2007-2013 yn werth £795 miliwn, gan gynnwys £195 miliwn o'r Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Datblygiadau diweddaraf WLGA ar Bolisi PAC/Datblygu Gwledig
Yn dilyn cyhoeddiad y cynigion ddeddfwriaethol drafft ar gyfer Datblygu Gwledig ac Amaeth yr UE 2014-2020 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn mis Hydref 2011, mae'r drafodaeth ar gynnwys Datblygu Gwledig/PAC yr UE wedi 2013 yn cyflymu ym Mrwsel. Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau hyn ac yn cynrychioli anghenion a blaenoriaethau llywodraeth leol yng Nghymru yn y trafodaethau pwysig hyn. Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol mewn darparu Rhaglenni Datblygu Gwledig yng Nghymru ac yn lobïo i chwarae rhan allweddol wrth gynllunio a pharatoi y rhaglenni newydd wedi 2013.
Mae'r gwybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf i'w weld yn y dogfennau isod:
2011
- Ymateb WLGA i Ymholiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y newidiadau a gynigir i'r Polisi Amaeth Cyffredin (Tachwedd 2011)
- Ymatebodd Swyddfa Ewropeaidd WLGA i ymgynghoriad y Comisiwn Ewropeaidd ar Asesiad Effaith Dyfodol y Polisi Amaeth Cyffredin yn mis Ionawr 2011. Bwriad yr ymateb oedd cydbwyso'r angen i warchod diwydiannau amaethyddol Cymru tra darparu gwell cefnogaeth i ddatblygu ardaloedd gwledig:
Ymateb ymgynghoriad WLGA ar Asesiad Effaith Dyfodol y Polisi Amaeth Cyffredin (PAC)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


