Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr

Mae angen cymorth ar bob cynghorydd i gyflawni ei rôl. Mae angen datblygu cynghorwyr profiadol yn barhaol i'w galluogi i ddeall y materion diweddaraf a meithrin eu medrau a'u gwybodaeth yn ôl eu rolau cyfnewidiol. Dylai pob cynghorydd newydd ddeall beth mae disgwyl iddo ei wneud a chael cyfle i feithrin ei fedrau a'i wybodaeth.

Mae WLGA yn cydweithio ag awdurdodau lleol Cymru i'w helpu i roi'r cymorth pwysig hwnnw i'w cynghorwyr trwy:

  • Cynnig canllawiau am holl agweddau cynorthwyo a datblygu cynghorwyr.
  • Cynnal rhwydweithiau i swyddogion cynorthwyo'r cynghorwyr a'r cynghorwyr sy'n hyrwyddo materion penodol i'w galluogi i gydweithio a lledaenu arferion ynglŷn â chynorthwyo a datblygu cynghorwyr.
  • Cynnig deunydd megis strategaethau enghreifftiol, disgrifiadau o rolau, fframweithiau datblygu a modiwlau hyfforddi.
  • Cydweithio'n strategol â Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod anghenion cynghorwyr yn y maes hwn yn cael eu hyrwyddo.

Cydweithio ag awdurdodau unigol i gomisiynu, llunio a chynnal hyfforddiant i gynghorwyr mewn meysydd megis:

  • Datblygu'r cabinet/bwrdd gweithredol
  • Datblygu rôl a medrau pwyllgorau craffu
  • Arwain y gymuned
  • Dadansoddi anghenion o ran hyfforddi
  • Rhaglen gyflwyno i gynghorwyr newydd
  • Hyfforddiant i gynghorwyr hoffai fod yn fentoriaid

Gallwn ni helpu awdurdodau i ddod o hyd i gyrff sy'n cynnig hyfforddiant mewn amryw feysydd, hefyd.

Ar y cyd â'r awdurdodau, lluniodd WLGA Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru i gyfeirio, ysgogi a chydnabod yr awdurdodau a hoffai roi cymorth o'r radd flaenaf i'w cynghorwyr.

Mae canllawiau a chymorth ar gael ynglŷn â gweithio yn ôl meini prawf y Freinlen.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyngor mae WLGA yn eu cynnig trwy ddilyn y linciau sydd ar y dudalen hon.

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe