31 Mawrth 2011
Mae WLGA wedi ychwanegu modiwl am iechyd a lles yng nghyd-destun datblygu cynaladwy i’w hadnoddau yn y maes hwn.
Diben y modiwl yw ystyried sut mae polisïau iechyd/lles a datblygu cynaladwy’n ymwneud â’i gilydd. Mae’n tynnu sylw at y canlynol:
- Mae iechyd a lles yn rhan o faterion datblygu cynaladwy.
- Bydd o fantais cadw’r modd mae’r ddau faes yn ymwneud â’i gilydd mewn cof wrth drefnu a chynnig gwasanaethau.
- I wella byd dinasyddion a chymunedau i’r eithaf, rhaid cymathu ystyriaethau iechyd/lles a datblygu cynaladwy gyda’i gilydd ym mhrosesau trefnu a chynnig y gwasanaethau.


