Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Dysgu gydol oes materion diwylliannol a / Ysgolion / Darogan nifer y disgyblion
 

Darogan nifer y disgyblion

Yn 2001, sefydlodd WLGA dasglu i fwrw golwg ar ysgolion bychain Cymru.  Ers cyhoeddi adroddiad y tasglu yn 2001, mae'r sefyllfa wedi newid ac mae lleoedd gwag mewn ysgolion yn fater sy'n effeithio ar awdurdodau Cymru i gyd ac ar ysgolion o bob maint.  Mae disgwyl y bydd nifer y disgyblion yn gostwng o 46,000 rhwng 2004 a 2013 - yn ogystal â'r ffaith bod 18% o leoedd yr ysgolion uwchradd ac 11% o rai'r ysgolion cynradd yn wag ar hyn o bryd. Mae'n amlwg hefyd nad yw llawer o adeiladau ysgolion Cymru yn addas i'w cymunedau nhw mwyach.

Yng ngwanwyn 2005, fe benderfynodd Pwyllgor Cydlynu WLGA sefydlu cylch gorchwyl a gorffen o dan arweiniad y Cyng. John Davies, Llefarwr WLGA dros Addysg, i ystyried y materion ehangach ynghylch lleoedd yn yr ysgolion.  Fe wahoddodd y cylch amryw gyrff, a'r awdurdodau lleol, i gyfrannu i'w waith ac fe gwrddodd nifer o weithiau yn ystod 2006.

Wrth gasglu'r dystiolaeth, daeth i'r amlwg pa mor berthnasol yw darparu ar gyfer nifer y disgyblion i fuddsoddi yn adeiladau'r ysgolion.  Mae'r adroddiad wedi'i baratoi bellach ac yn destun ymgynghori cyn ei gyhoeddi yn yr hydref.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne