Mae rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd yn rhoi cyfyngiadau ar y nifer o arian cyhoeddus y gellir ei roi i gwmnioedd preifat er mwyn sicrhau cystadleuaeth ar draws yr UE. Fel canlyniad maent yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad economaidd llywodraeth leol a gweithgareddau adfywio.
Mae WLGA yn monitro effaith rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol ar lywodraeth leol, yn cadw llygad ar bolisi Ewropeaidd ac yn darparu y gwybodaeth diweddaraf ar effeithiau polisi a mesurau ymarferol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae angen i reoliadau Cymorth Gwladwriaethol fod yn fwy teg, yn fwy effeithiol ac yn gliriach ar draws yr UE. Mae ansicrwydd ynlgyn a maint a'r ffordd y mae rheoliadau yn cael ei ddefnyddio wedi rhwystro gweithgareddau adfywio yn ardaloedd di-freintiedig, a rydym yn cefnogi ymdrechion y Comisiwn Ewropeaidd i symleiddio y rheoliadau.
Wrth ystyried y sialensiau newydd sy'n wynebu yr Undeb Ewropeaidd ehangach, mae WLGA o'r farn y ddylsai unryw system Cymorth Gwladwriaethol newydd gydymffurfio yn well gyda Strategaeth Lisbon a'r Trydydd Adroddiad Cydlyniad, gan fod Cymorth Gwladwriaethol yn chwarae rhan allweddol yn y polisiau yma ar draws Ewrop.
Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (GBER)
Mae Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (GBER), a chafodd ei fabwysiadu yn ffurfiol gan y Comisiwn Ewropeaidd yn Gorffennaf 2008 ac a chafodd ei weithredu ar 29ain Awst 2008, yn rhoi cymeradwyaeth awtomatig i nifer o fesurau cymorth, sy'n caniatau gweinyddwyr cymorth i ddarparu cymorth heb orfod rhoi gwybod i'r Comisiwn ar yr amod fod y mesurau yn cyfateb gyda'r gofynion a amlinellwyd yn y rheoliad.
Mae eithriadau bloc presennol (ar gyfer busnesau bach, cymorth cyflogaeth, cymorth hyfforddi a chymorth rhanbarthol) wedi ei chyfuno i un ddogfen o fewn GBER, gyda rhai newidiadau i lefelau cymorth sydd yn ganiataol a throthwyon hysbysiadau sy'n caniatau cefnogaeth i barhau ym meysydd buddsoddi cyfalaf, ymarfer, ymchwil a datblygu a chefnogaeth ymgynghori i fusnesau bach.
Gorffennodd y cynlluniau cymorth a chafodd ei gofrestru o fewn yr eithriad bloc blaenorol ar 31ain Rhagfyr 2008 ac felly mae'r cynlluniau yma bellach yn cydymffurfio gyda'r GBER newydd (mae rhagor o fanylion isod).
Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol
Cynlluniau Cofrestredig Llywodraeth Leol Cymru:
Mae'r dolenni isod yn eich arwain at rhagor o fanylion ar y tri chynllun newydd i lywodraeth leol sydd wedi eu gofrestru gyda'r Comisiwn Ewropeaidd wrth gydymffurfio gyda'r Rheoliad Eithraid Bloc Cyffredinol (GBER), a fydd yn rheoli dyfarniadau'r cymorth rhwng 2009 a diwedd 2013 (dogfennau yn Saesneg yn unig):
- Cefnogaeth Llywodraeth Leol Cymru i Gynllun Cyflogaeth (Gweithwyr Anabl / Dan Anfantais) X62/2010
- Cynllun Cymorth i Fuddsoddi Cyfalaf a Chymorth Cyflogaeth Llywodraeth Leol Cymru X98/2009
- Cynllun Datblygu Busnesau Bach Llywodraeth Leol Cymru X100/2009
- Cynllun Cefnogaeth Hyfforddi Llywodraeth Leol Cymru X97/2009
Adroddiadau diweddar ar Gymorth Gwladwriaethol:
- Ionawr 2007 - Eithriad bloc yn cael ei ganiatau
- Ionawr 2007 - Egluro sut mae cymorth Rhanbarthol a eithriadau bloc yn gweithio gyda'i gilydd
- Ionawr 2007 - Mapiau cymorth Rhanbarthol ar gyfer 2007-2013 wedi ei gyhoeddi
Ymatebion ymgynghori WLGA ar Gymorth Gwladwriaethol:
- Mehefin 2007 - Canllaw cymorth Amgylcheddol
- Mai 2007 - Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol
Dolenni Cymorth Gwladwriaethol:
- Gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gymorth Gwladwriaethol
- Gwefan BERR ar Gymorth Gwladwriaethol
- Deddfwriaeth Ewropeaidd yn ymwneud â Chymorth Gwladwriaethol
Mae rhagor o wybodaeth gan: Katie Cavell
