Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Ewrop a WLGA / Blaenoriaethau ynghylch polisiau Ewrop / Cystadleuaeth a Chymorth Gwladwriaethol
 

Cystadleuaeth a Chymorth Gwladwriaethol

Mae rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd yn rhoi cyfyngiadau ar y nifer o arian cyhoeddus y gellir ei roi i gwmnioedd preifat er mwyn sicrhau cystadleuaeth ar draws yr UE. Fel canlyniad maent yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad economaidd llywodraeth leol a gweithgareddau adfywio.

Mae WLGA yn monitro effaith rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol ar lywodraeth leol, yn cadw llygad ar bolisi Ewropeaidd ac yn darparu y gwybodaeth diweddaraf ar effeithiau polisi a mesurau ymarferol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae angen i reoliadau Cymorth Gwladwriaethol fod yn fwy teg, yn fwy effeithiol ac yn gliriach ar draws yr UE. Mae ansicrwydd ynlgyn a maint a'r ffordd y mae rheoliadau yn cael ei ddefnyddio wedi rhwystro gweithgareddau adfywio yn ardaloedd di-freintiedig, a rydym yn cefnogi ymdrechion y Comisiwn Ewropeaidd i symleiddio y rheoliadau.

Wrth ystyried y sialensiau newydd sy'n wynebu yr Undeb Ewropeaidd ehangach, mae WLGA o'r farn y ddylsai unryw system Cymorth Gwladwriaethol newydd gydymffurfio yn well gyda Strategaeth Lisbon a'r Trydydd Adroddiad Cydlyniad, gan fod Cymorth Gwladwriaethol yn chwarae rhan allweddol yn y polisiau yma ar draws Ewrop.