Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Adfywio / Cynorthwyo busnesau
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cynorthwyo busnesau

Mae sawl rheswm pam dylai awdurdod lleol a chwmnïau ei fro feithrin dealltwriaeth a pherthynas waith effeithiol. Mae cwmnïau preifat yn bwysig i les economaidd a chymdeithasol y dinasyddion ac mae awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn cael hyrwyddo a rheoleiddio gwaith y sector preifat. Mae'n hanfodol i'r sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio i hybu cwmnïau iach a chystadleuol a gofalu bod y sector cyhoeddus yn effro i anghenion y sector preifat.

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi sefydlu ffora busnes lleol sy'n galluogi cwmnïau lleol i drafod materion a phryderon gyda chynghorwyr a swyddogion. Mae'r ffora'n cynnig cyfle iddyn nhw ddylanwadu ar brosesau llunio polisïau a phenderfynu'r awdurdod a meithrin cysylltiadau â chwmnïau eraill yn y fro, hefyd.

Mae WLGA wedi meithrin perthynas waith â Chydffederasiwn Diwydiannau Prydain a Chydffederasiwn y Busnesau Bach ac wedi llofnodi memorandwm dealltwriaeth gyda'r ddau gorff i ddibenion cydweithio.

Mae Llywodraeth y Cynulliad am gynnig cymorth cyfun i fyd busnes ar ffurf gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B) ac iddo dair prif elfen:

• Cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth trwy wefan, gwifren a chysylltiadau personol mewn canolfannau ledled y wlad.

• Rheolwyr perthynas sy'n helpu cwmnïau allai dyfu trwy ddadansoddi eu hanghenion o ran datblygu a dod o hyd i gymorth perthnasol.

• Arian ac arbenigwyr: y Gronfa Fuddsoddi Sengl yw gwasanaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cymorth ariannol ac arbenigol.

Yr awdurdodau lleol sy'n bennaf cyfrifol am ganolfannau cymorth busnes yn eu bröydd ac yn cynnig cymorth ar sawl ffurf i fyd busnes, megis:

• Grantiau
• Cynghori a mentora
• Datblygu a rheoli safleoedd ac adeiladau
• Marchnata i ddenu buddsoddwyr allanol ac ymwelwyr

Yn Ardal Gydgyfeirio'r Gorllewin a Chymoedd y De, mae'r awdurdodau lleol yn gweinyddu'r Gronfa Fuddsoddi Leol – menter sy'n cynnig hyd £5,000 i gwmnïau lleol dan nawdd Undeb Ewrop. 

Dogfennau perthnasol

Cymorth Hyblyg i Fusnes

Y Gronfa Fuddsoddi Leol

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym