Mae trefn y cynllunio'n bwysig ym mywydau pobl o ran llunio, cadw a datblygu'r ardaloedd trefol a'r dirwedd. Mae'r ystyriaethau am ble a sut y byddwn ni'n gweithio, yn byw ac yn hamddena yn bwysig.
Mae rôl i gynllunio ynglŷn â: hybu, hwyluso a rheoli adeiladu; diogelu a chadw safleoedd adeiledig a naturiol; helpu'r byd masnachol a datblygu'r economi; diogelu'n treftadaeth bensaernïol; hyrwyddo safonau uchel o ran llunio adeiladau a rheoli'r amgylchedd.
Rhaid i gynllunio geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng amrywiaeth o flaenoriaethau a buddiannau. Mae hynny'n amlwg ynglŷn â phynciau llosg megis ffermydd gwynt mawr, prosiectau mawr ar gyfer trin gwastraff, gweithredu yn ôl deddfau Undeb Ewrop (e.e. y gyfarwyddeb am gynefinoedd) a diwallu'r angen i adfywio cymunedau ledled Cymru.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae pob un o 25 awdurdod cynllunio lleol Cymru (22 awdurdod lleol ac awdurdodau'r 3 pharc cenedlaethol) wedi pennu'r fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn ôl y polisi cynllunio gwladol. Mae gofyn i bob un gyflwyno cynllun datblygu lleol sy'n rheoli'r datblygu ac yn helpu i benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio. Dim ond yn ddiweddar y mabwysiadodd rhai awdurdodau'r cynlluniau datblygu unedol – rhagflaenydd y cynllun datblygu lleol – ac, felly, rhaid iddyn nhw ddechrau paratoi cynlluniau datblygu lleol bellach. Yr hyn sy'n hanfodol yw bod cynlluniau cyfoes sy'n cyfeirio'r datblygu yng Nghymru.
Mae ar y cynghorau ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol gyfrifoldebau statudol am:
- prosesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio a phenderfynu arnyn nhw yn ôl y cynllun datblygu cyfoes a pholisïau a deddfau Cymru, y DG ac Undeb Ewrop;
- cyflawni gorchwylion rheoli a gorfodi ym maes datblygu;
- cadw ardaloedd penodol a chadw a gwella'r dreftadaeth naturiol a phensaernïol;
- rheoli ynglŷn â chloddi mwnau;
- paratoi ac adolygu'r cynllun datblygu lleol;
Mae yn y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol dirweddau sydd o bwys i'r wlad. Mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn gyfrifol am ofalu bod eu penderfyniadau am gynllunio'n cyd-fynd â'u dau ddiben statudol – cadw'r dirwedd, bywyd gwyllt a'r dreftadaeth ddiwylliannol a helpu pobl i fwynhau a deall nodweddion arbennig y parciau gan feithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau sydd yno, hefyd.
Trwy raglen o'r enw 'Cynllunio: Cyflawni dros Gymru', mae'r awdurdodau cynllunio lleol yn ceisio cynnal trefn gynllunio a ddylai:
- gweithredu mewn modd agored, teg a thryloyw;
- ennyn hyder y cyhoedd a'r byd masnachol;
- gweithio'n well ac yn gyflymach;
- cydblethu â phrosesau a gweithgareddau cynlluniau eraill.
Mae rôl y cynghorwyr yn hanfodol o ran tryloywder ac atebolrwydd prosesau penderfynu yn ogystal â'r angen i arwain y gymuned pan fo penderfyniadau'n anodd neu'n ddadleuol.
Ers rhai blynyddoedd bellach, mae tuedd i ddefnyddio trefn y cynllunio i gyflawni nodau gwladol a lleol ehangach. Er bod modd cydymdeimlo â'r duedd honno ac – mewn sawl ffordd – ei chroesawu, mae'n effeithio'n fawr ar gymhlethdod y drefn ac yn ychwanegu at faich yr awdurdodau cynllunio unigol a chyrff cysylltiedig eraill. Mae perygl bob amser y bydd pobl yn methu â deall pam mae awdurdod wedi dod i ryw benderfyniad ac mae rôl allweddol i'r cynghorwyr ynglŷn â chynnwys y trigolion yn eu prosesau penderfynu ac esbonio'r rhesymau dros benderfyniad.
Rhagor o wybodaeth


