Mae'r drefn gynllunio'n cyflawni rôl hanfodol ym mywydau pobl trwy lunio, cadw a datblygu adeiladau a thirwedd Cymru. Mae'n ffyrdd ni o weithio, byw a chwarae yn bwysig.
Diben cynllunio yw hyrwyddo a rheoli datblygu ym maes adeiladu, cynnal a chadw'r amgylchedd, helpu'r byd masnachol a'r economi, diogelu ein treftadaeth bensaernïol a mynnu safonau uchel ynglŷn â llunio adeiladau a rheoli'r amgylchedd.
Gan mai Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am gynllunio, mae'r polisi'n wahanol iawn i un Lloegr a bydd y duedd honno'n parhau, yn ôl pob tebyg, yn sgîl cyhoeddiadau gan y glymblaid yn San Steffan. Er y bydd Llywodraeth y DG yn parhau i benderfynu ar isadeiledd o bwys, bydd rôl bwysig i gynghorwyr lleol ynglŷn ag ymgynghori â phobl eu bröydd a chyflwyno eu sylwadau i'r adrannau gwladol.
Bydd pob un o 25 awdurdod cynllunio Cymru (y 22 awdurdod lleol ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol) yn pennu fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn ôl polisi cynllunio'r wlad. Mae gofyn i bob awdurdod baratoi cynllun datblygu lleol sy'n rheoli'r datblygu ac yn helpu i benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio. Mabwysiadodd rhai awdurdodau gynlluniau datblygu unedol – man cychwyn paratoi cynllun datblygu lleol – yn ddiweddar. Ar y llaw arall, mae rhai awdurdodau ar fin mabwysiadu eu cynlluniau datblygu lleol. Yr hyn sy'n hanfodol yw bod cynlluniau ar waith yng Nghymru i gadw trefn ar ddatblygu.
Mae cyfrifoldebau statudol ar y cynghorau am:
- prosesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio yn ôl polisïau a deddfau Cymru, y DG ac Undeb Ewrop a phenderfynu arnyn nhw;
- cynnal gwasanaethau rheoli datblygu, gorfodi a rheoli adeiladu;
- cadw ardaloedd penodol a'r dreftadaeth bensaernïol yn ddiogel;
- rheoli mwyngloddio;
- paratoi ac adolygu cynllun datblygu lleol.
Trwy raglen 'Cynllunio: Cyflawni dros Gymru', mae awdurdodau cynllunio lleol yn ceisio cynnal trefn gynllunio sy'n:
- un agored, teg a thryloyw;
- ennill hyder y cyhoedd a byd busnes;
- prosesu ceisiadau'n dda ac yn brydlon;
- cydblethu â chynlluniau, prosesau a chamau eraill.
Mae'r awdurdodau'n cydweithio trwy Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru fel y bydd materion strategol yn cael eu hystyried. Mae awdurdodau lleol yn gweithio yn ôl y fframwaith polisïau mae'r Cynulliad a deddfau perthnasol wedi'i sefydlu.
Mae WLGA yn cydweithio â'r Cynulliad trwy gyfrannu i'w weithgorau a chymryd rhan yn y Fforwm Cynllunio Cenedlaethol. Mae'r polisi ar hyn o bryd ynglŷn â defnyddio tir yn y ddogfen gyhoeddodd y Cynulliad eto yn 2010, Polisi Cynllunio Cymru, sy'n rhoi'r fframwaith strategol ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu awdurdodau cynllunio lleol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Craig Mitchell


