Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Gwella a llywodraethu / Cynllun Rhagoriaeth Cymru
 

Cynllun Rhagoriaeth Cymru

Excellence Wales logoMae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn datblygu ac yn hybu'r syniad yma ers rhai blynyddoedd, gan ennill cefnogaeth eang drosto ymhlith sefydliadau gwladol a lleol. Mae'r cynllun yn unigryw i fyd llywodraeth leol Cymru ac yn cael ei gynnal ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol Cymru a chyrff sy'n hyrwyddo'r arferion gorau ledled y DG. Bwrdd Ymgynghorol Cynllun Rhagoriaeth Cymru fu'n llywio ein gwaith.

Mae tri phrif nod i'r cynllun:-

  • hyrwyddo'r syniad o ddysgu oddi wrth ein cymheiriaid a gwella cyflawniad pawb o ganlyniad;
  • cynnig cyfle i awdurdodau lleol Cymru gydnabod a dathlu arferion da;
  • hyrwyddo delwedd gadarnhaol o fyd llywodraeth leol yn y wasg leol a chenedlaethol.

Mae tri swyddog wedi'u penodi bellach i reoli a gweinyddu'r cynllun a chadw llygad ar gostau rhoi gwobrau a lledaenu dysg.

Egwyddorion

Mae'r cynllun wedi'i sefydlu yn ôl y prif egwyddorion canlynol:

  • Mae'r pwyslais ar fod yn agored, dysgu a chyfnewid gwybodaeth er mwyn gwella gwasanaethau. Mae'r dull o ddatblygu a chyflawni'r cynllun yn unigryw, sef cydweithio â'r awdurdodau lleol a'r cyrff allanol i gynnal cynllun o bwys lle bydd pawb ar ei ennill yn y pen draw.
  • Mae'r cynllun yn ychwanegu at rai eraill megis Cynllun y Cynghorau Llewyrchus. Does dim bwriad i ddyblygu unrhyw gynllun arall megis y rhai mae Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Municipal Journal yn eu cynnal. Byddwn ni'n cydweithio â nhw a'r cyrff rheoleiddio er mwyn ennill hygrededd i'r cynllun a byd llywodraeth leol Cymru ledled y wlad.
  • Fydd dim modd nodi pob gwasanaeth mewn rhaglen 3 blynedd. Y nod yw mynd i'r afael â'r pynciau llosg cyfredol.

I gyflwyno sylwadau, cael rhagor o wybodaeth neu ofyn am gyflwyniad i dîm rheoli'ch awdurdod neu'ch cyngor, anfonwch neges ebost at excellence.wales@wlga.gov.uk

Cynllun Rhagoriaeth Cymru – Taflen Dathlu Llwyddiant 2006/7

Statws Rhagoriaeth Cymru - 2007/08

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues

Cyhoeddiadau perthynol