Yn y sefyllfa bresennol, mae'n ymddangos y bydd allgau ariannol yn destun pryder dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad i'r dirwasgiad a'r wasgfa gredyd ddaeth yn ei sgîl, mae'n llai tebygol y bydd sefydliadau ariannol y brif ffrwd yn cynnig gwasanaethau i'r rhai ac iddyn nhw ormod o risg a dim digon o elw yn eu tyb nhw. Yn ôl pob tebyg, bydd mwy a mwy o gwsmeriaid yn eu cael eu hunain ar ymylon y marchnadoedd ariannol heb gyfle i fanteisio ar wasanaethau am bris rhesymol. Felly, mae'n bwysicach fyth gynnig ffyrdd amgen iddyn nhw – mae allgau ariannol a dyledion mawr yn broblemau mae rhaid eu hystyried o ddifrif a chymryd camau ar y cyd i'w datrys.
Mae rôl bwysig i'r awdurdodau lleol yn hyn o beth trwy ariannu a chynnig gwasanaethau cynhwysiad ariannol am eu bod yn ymwneud â phobl yr ymylon yn eu gwaith bob dydd. Mae rôl allweddol iddyn nhw ynglŷn ag addysg ariannol yn yr ysgolion hefyd, i ofalu bod pobl ifanc yn deall materion ariannol personol yn dda cyn gadael yr ysgol achos mai dyma'r ffordd orau o ddelio ag allgau ariannol yn y pen draw.
At hynny, mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i fod yn ganolbwynt a sbarduno cynhwysiad ariannol yn eu hardaloedd trwy hybu'r syniad o sefydlu mentrau newydd i'r perwyl hwnnw, datblygu'r rhai presennol ac ymgysylltu â'r prif fudd-ddalwyr trwy ffora lleol.
Sut gall awdurdodau lleol helpu i hybu cynhwysiad ariannol?
- Llunio strategaethau sy'n adlewyrchu anghenion eu hardaloedd a'u pobl i'r diben hwnnw.
- Cydweithio'n agos â Hyrwyddwyr Cynhwysiad Ariannol Cymru i gyflawni targedau Llywodraeth y DG a Llywodraeth y Cynulliad yn y maes hwn.
- Cynnig cynlluniau yswirio cynnwys cartref i'w tenantiaid am bris rhesymol.
- Rhoi cyngor am faterion ariannol a budd-daliadau.
- Meithrin cysylltiadau ac anfon pobl i asiantaethau arbenigol megis Cyngor ar Bopeth, gwasanaethau cynghori am ddyledion ac Uned Cymru dros Faterion Benthyca'n Anghyfreithlon.
- Helpu i ddatblygu undebau credyd a chydweithio â nhw trwy gyfrwng grantiau a/neu gytundebau lefel gwasanaeth.
Mae WLGA yn cynrychioli awdurdodau lleol Cymru yng Nghylch Llywio Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd Ymgynghorol yr Hyrwyddwyr. Hoffen ni glywed rhagor am y gwaith sy'n mynd rhagddo ynglŷn â chynhwysiad ariannol i ofalu bod modd cynrychioli barn yr awdurdodau lleol yn y ffora gwladol hynny.


