Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cyflogaeth / Cynhadledd Medrau 2008
 

Cynhadledd Medrau 2008

Cynhadledd Medrau Gwasanaethau Cyhoeddus 2008

 

Datblygu’r gallu i gydweithio a newid

 

Mae dogfen Llywodraeth y Cynulliad Cymru’n Un yn sôn am ‘agenda flaengar i Gymru’ gydag ‘amcanion cyffredin, gwerthoedd a gobeithion ar y cyd’ lle yr her i wasanaethau cyhoeddus yw darparu gwelliannau cyson i wasanaethau lleol o dan ‘egwyddor effeithlonrwydd a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd’.

Bydd y gynhadledd hon yn rhoi’r cyfle i bobl broffesiynol o rychwant eang y gwasanaethau cyhoeddus drafod yr heriau hyn o safbwynt y sgiliau a’r gallu sy’n llywio’r cynnydd mewn cydweithio a newidiadau cyson.

Bydd y prif gyflwyniadau yn canolbwyntio ar ddatblygu sefydliadau a rheoli doniau. Ymhlith y cyflwyniadau bydd Yr Athro Lynette Harris yn rhannu ei chanfyddiadau o ymchwil ddiweddar y CIPD ar reoli doniau. Hefyd bydd Dr Pat Oakley, sy’n arbenigwr datblygu rheolaeth a sefydliadau, yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer y gweithdai canlynol:

 

GWEITHDY:

 

Gweithdy A – Offer a Thechnegau Datblygu Sefydliadol: Trawsnewid eich sefydliad Margaret Rees, Uwch Ymchwilydd, Opinion Research Services Ltd

 

Gweithdy B – Ymarfer Datblygu Sefydliadol

 

Gweithdy C – Gweithio mewn Partneriaeth: Byrddau Gwasanaeth Lleol

 

Gweithdy D – Gweithio mewn Partneriaeth: Ymarfer Cydweithredu

 

Gweithdy E – Brandio Cyflogwyr

 

Gweithdy F – Cynllunio ar gyfer Olyniaeth

 

Gweithdy G – Ymgysylltu Cyflogeion