Diben Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol. Mae adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a adwaenir fel Cyngor Partneriaeth Cymru. Caiff y cyrff canlynol eu cynrychioli:
- Cynghorau sir/cynghorau bwrdeistref sirol
- Cynghorau cymuned a thref
- Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau'r Heddlu
- Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae'r Cyngor Partneriaeth yn cwrdd oddeutu 3 gwaith y flwyddyn.
Papurau Cygnor Partneriaeth Cymru – cliciwch yma: http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/?skip=1&lang=cy
