Hoffech chi fod yn gynghorydd a gadael eich ôl ar y gymuned?
Dyma dudalennau WLGA ar y we i’r rhai sy’n ystyried bod yn ymgeiswyr yn etholiadau lleol 2012.
Mae yma amrywiaeth o wybodaeth a linciau fydd yn eich helpu i ddeall beth mae cynghorwyr a chynghorau’n ei wneud a sut cewch chi fod yn ymgeisydd. Efallai y bydd yr wybodaeth hon ar gael ar ffurf brintiedig trwy wasanaethau etholiadol eich awdurdod lleol.
Mae llawlyfr o’r enw ‘Bod yn gynghorydd’ ar gael trwy’ch awdurdod lleol, hefyd. Mae copi electronig ar gael trwy’r ddewislen ar y tu chwith. Mae rhannau eraill y ddewislen yn cyflwyno gwybodaeth fanylach sydd heb ei chynnwys yn y llawlyfr. Byddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth fel y bo’n briodol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau.
Diben y ‘Canllawiau i gwmnïau’ yw annog cwmnïau bychain a chanolig eu maint i gynorthwyo staff sy’n cynghorwyr yn barod a’r rhai sy’n ystyried bod yn ymgeiswyr. Os ydych chi’n ystyried bod yn ymgeisydd, a chithau am drafod y mater gyda’ch cyflogwr, efallai y bydd yr wybodaeth hon o gymorth yn eich trafodaethau.
Gwybodaeth Pellach
Plaid Cymru - www.plaidcymru.org
Y Blaid Lafur yng Nghymru - www.welshlabour.org.uk
Ceidwadwyr Cymru - www.welshconservatives.com
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - www.welshlibdems.org.uk
Gall cylch annibynnol Cymdeithas Llywodraeth Leol roi gwybodaeth i gynghorwyr ac ymgeiswyr annibynnol. Dyma’u gwefan - www.independentgroup.lga.gov.uk
Cewch restr lawn o’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn:
www.electoralcommission.org.uk
www.electoralcommission.org.uk/wales


