Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynghorau tref a chymuned
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cynghorau tref a chymuned

Mae dros 730 o gynghorau tref a bro yng Nghymru ac mae gyda nhw dros 8,000 o gynghorwyr. Nid ym mhob rhan o Gymru mae cynghorau o'r fath gan fod gweithdrefn i'w sefydlu neu eu diddymu yn ôl dymuniad y trigolion. Maen nhw'n cael pennu archebiant neu gyfradd y bydd y cyngor yn eu casglu ynghyd â'i dreth.

Mae lefel y gwasanaethau mae'r cynghorau hynny'n eu cynnig yn amrywio ledled Cymru ac er bod rhai'n fodlon cadw at gynrychioli yn bennaf, mae llawer yn rhoi amryw wasanaethau ar ran y gymuned megis cynnal a chadw:

  • neuaddau; 
  • llochesi teithwyr bysiau; 
  • mannau cyhoeddus; 
  • meysydd chwarae.

Mae llawer o gynghorwyr sir mewn rhannau o Gymru yn aelodau o gynghorau tref a bro, hefyd. Mae'n bwysig i aelodau'r cynghorau unedol a'r cynghorau tref a bro gydweithio i gynrychioli eu cymunedau ac, yn yr un modd, mae'r cynghorau tref a bro yn cael eu hannog i gydweithio'n agos â'i gilydd, gan gwrdd yn rheolaidd a sefydlu protocolau ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori.

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford