Mae Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn ceisio cael gwared ar amddifadedd yn 100 ward mwyaf difreintiedig Cymru, yn ogystal ag ymhlith cymunedau eraill o ddiddordeb. Mae’r rhaglen ar waith ym mhob ardal ar ffurf partneriaethau sy’n cynnwys trigolion ac asiantaethau.
Mae llawer o awdurdodau lleol yn cynorthwyo gwaith partneriaethau gyda chymorth cydlynwyr sy’n datblygu prosiectau ac yn cydlynu gwasanaethau.
Mae’r Gymdeithas yn cydlynu rhwydwaith o swyddogion cymunedol yr awdurdodau lleol i rannu arferion am y rhaglen a mentrau eraill sy’n datblygu cymunedau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym


