Pecyn adnoddau i'r rhai sy'n cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
Ydych chi’n cyflwyno hyfforddiant, yn gweithio yn y maes neu â diddordeb yn ymwneud ag Ymwybyddiaeth Iaith? Cafodd y pecyn adnoddau ymwybyddiaeth iaith dwyieithog i hyfforddwyr ‘Beth Am y Gymraeg’ ei ddatblygu fel adnodd ar gyfer llywodraeth leol i:
- wella gwybodaeth a dealltwriaeth;
- gynyddu’r gallu i ddarparu ystod o hyfforddiant mewn perthynas ag Ymwybyddiaeth Iaith.
Mae’r pecyn adnoddau’n cynnwys:
- Nifer o adrannau gwahanol a ddatblygwyd i ffurfio ymagwedd adeiladu yn dechrau o feysydd ‘syml’ ac yn symud i faterion ‘mwy cymhleth’;
- Nodiadau ychwanegol i hyfforddwyr gyda materion allweddol wedi eu hamlygu;
- Deunydd cefnogi, yn cynnwys astudiaethau achos, ymarferion, taflenni, deunydd darllen pellach a gwefannau defnyddiol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan


