Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Datblygu sefydliadau / Cymorth WLGA i awdurdodau lleol ym maes hyfforddi personol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cymorth WLGA i awdurdodau lleol ym maes hyfforddi personol

Beth yw hyfforddi personol?

Hanfod hyfforddi personol yw perthynas gyfrinachol y bydd rhywun yn ei meithrin o'i wirfodd â hyfforddwr cymwysedig a phrofiadol fydd yn ei helpu i dysgu a chyflawni ei lawn dwf. Caiff y berthynas weithredu tu allan i'r drefn reoli ac fe gaiff is-reolwyr fabwysiadu'r syniad yn rhan o'u ffordd nhw o reoli ac arwain. Bydd yr hyfforddwr yn helpu'r sawl sydd dan ei adain i gyflawni nodau mae'r ddau wedi cytuno arnyn nhw. Gall hyfforddi personol ddatblygu hunanymwybyddiaeth, medrau, gwybodaeth ac ymddygiad yn ogystal â helpu i weithio'n well, meithrin cymhelliant a chadw'ch bywyd yn gytbwys.

Sut gall WLGA helpu?

Mae WLGA o'r farn bod hyfforddi personol o gymorth gwerthfawr i reolwr pan fo ei angen. Bydd awdurdodau lleol yn elwa trwy gyflwyno hyfforddi personol yn rhan o'u strategaethau ehangach ar gyfer datblygu pobl neu gyfundrefnau. Bydd rheolwyr a hoffai gynnwys hyfforddi personol yn eu dulliau rheoli'n elwa ar hyfforddiant i feithrin medrau yn y maes hwn. Fe fydd y rhai sy'n hyfforddi pobl yn bersonol tu allan i weithgareddau rheoli neu gyfundrefnau yn elwa ar hyfforddiant megis cyrsiau'r ILM, goruchwyliaeth a safonau Undeb Ewrop.

Ers 2007, mae WLGA wedi rhoi cyngor, cyfarwyddyd a chymorth ariannol i'r awdurdodau sy'n rhoi strategaethau hyfforddi personol ar waith ac yn trefnu hyfforddiant naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag awdurdodau eraill. Mae WLGA yn cydweithio'n agos â Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofalu bod hynny i gyd yn cydblethu â'r ffordd wladol o hyfforddi a mentora gweithwyr. Rydyn ni'n annog hyfforddwyr i gymryd rhan yn y trefniadau hyfforddi a goruchwylio mae'r corff hwnnw'n eu hwyluso.

Bydd WLGA yn gallu:

  • Rhoi cymorth i awdurdodau a hoffai gyflwyno strategaethau unigol neu ranbarthol ynglŷn â hyfforddi'n bersonol. 
  • Helpu i gomisiynu hyfforddiant. 
  • Helpu rheolwyr awdurdodau lleol i ddod o hyd i hyfforddwyr.

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe