Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Adfywio / Cymorth gwladol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cymorth gwladol

Mae rheoliadau Undeb Ewrop yn pennu faint o arian gwladol mae modd ei roi i gwmnïau preifat er cystadleurwydd ledled Ewrop. O ganlyniad, maen nhw'n effeithio'n fawr ar waith datblygu economaidd ac adfywio'r awdurdodau lleol.

Mae WLGA yn cadw llygad ar effaith Rheoliadau'r Cymorth Gwladol ar lawr gwlad, yn helpu i gyfeirio polisïau Undeb Ewrop ac yn rhoi gwybodaeth gyfoes am y goblygiadau i bolisïau a'r camau y gall byd llywodraeth leol Cymru eu cymryd.

Mae angen i'r rheoliadau fod yn symlach, yn eglurach ac yn fwy cymesur o lawer ledled gwledydd Undeb Ewrop. Mae ansicrwydd am ehangder y rheoliadau a modd eu defnyddio wedi amharu'n fawr ar waith adfywio mewn ardaloedd difreintiedig ac rydyn ni'n cefnogi'n llawn ymdrech Comisiwn Ewrop i'w symleiddio.

Rheoliadau Eithrio Cyffredinol

Mabwysiadodd Comisiwn Ewrop y rheoliadau hyn fis Gorffennaf 2008 a daethon nhw i effaith ar 29ain Awst 2008. Mae'r rheoliadau'n gadael i weinyddwyr roi arian gwladol heb angen rhoi gwybod i'r comisiwn ar yr amod bod yr ariannu'n cyd-fynd â'r gofynion perthnasol.

Mae rhai meysydd oedd yn eithriadau o'r blaen megis cwmnïau bychain a chanolig, cyflogaeth, hyfforddiant a rhanbarthau wedi'u cynnwys yn y rheoliadau er bod lefelau'r cymorth mae modd ei roi a'r wybodaeth mae rhaid ei chyflwyno wedi'u newid rywfaint fel y gall trefniadau cyfredol barhau mewn meysydd megis buddsoddi cyfalaf, hyfforddiant, ymchwil a datblygu, a chynghori cwmnïau bychain a chanolig.

Daeth cynlluniau cymorth oedd wedi'u cofrestru yn ôl yr hen drefniadau eithio i ben ar 31ain Rhagfyr 2008. Felly, mae'r cynlluniau hynny wedi'u cofrestru yn ôl y rheoliadau newydd bellach (mae rhagor o fanylion isod).

Rheoliadau Eithrio Cyffredinol

Cynlluniau wedi'u cofrestru ar gyfer byd llywodraeth leol Cymru:

Mae'r linciau isod yn arwain at fanylion tri chynllun newydd sydd wedi'u cofrestru yn Undeb Ewrop ar gyfer byd llywodraeth leol Cymru yn unol â'r rheoliadau newydd sy'n pennu faint o gymorth gwladol mae modd ei roi rhwng 2009 a 2013:

Cynllun Cymorth Buddsoddi Cyfalaf a Chyflogaeth Llywodraeth Leol Cymru X98/2009
Cynllun Datblygu Cwmnïau Bychain a Chanolig Llywodraeth Leol Cymru X100/2009
Cynllun Cymorth Hyfforddiant Llywodraeth Leol Cymru X97/2009

Linciau a dogfennau perthnasol

• Ionawr 2007 – Mapiau cymorth rhanbarthol 2007-2013 wedi'u cyhoeddi
Tudalen gwefan Llywodraeth y Cynulliad am gymorth gwladol
Tudalen gwefan Adran Busnes, Arloesi a Medrau San Steffan am gymorth gwladol
Deddfau Undeb Ewrop am gymorth gwladol

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym