Roedd dyraniad 2005/06 yn un caeth i awdurdodau lleol Cymru. Roedd rhai cynghorau'n wynebu nifer o ddewisiadau anodd iawn rhwng naill ai gwtogi ar wasanaethau lleol yn sylweddol neu gynyddu treth y cyngor at lefel annerbyniol.
Ar y llaw arall, sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad ei 'chynllun lleddfu dros dro' i roi cymorth i'r rhai oedd ar eu colled fwyaf o ganlyniad i ailbennu gwerth eu tai. Ar ben hynny, mae'r dyraniad yn gwarantu lleiafswm i gyllideb pob cyngor bellach.
Yn y dyraniad terfynol, cafodd Cymru ragor o arian ar ôl i Ganghellor y Trysorlys gyhoeddi y byddai'n rhoi £7.4 miliwn ychwanegol cyn pennu'r gyllideb. Mae'r Cynulliad wedi neilltuo'r arian i gyd ar gyfer byd llywodraeth leol yn ogystal â rhoi £2 filiwn yn rhagor i ddibenion amddifadedd a chyflawniad, swm mae gwir angen amdano. Mae rhagor o adnoddau ar gael i ariannu pensiynau a gofal cymdeithasol, hefyd.
