Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Cyllid Llywodraeth Leol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cyllid Llywodraeth Leol

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r holl feichiau sy’n codi o ganlyniad i newidiadau i Bolisïau Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn llawn
  • Amddiffyn gallu Awdurdodau Lleol i fenthyg yn ddarbodus ac argaeledd cyfeiriadau cyfalafu
  • Ymrwymiad i ddiogelu pob dull presennol o ariannu buddsoddiad cyfalaf ac archwilio a gweithredu ffrydiau ariannu newydd posibl yn cynnwys Cyfryngau â Chymorth Asedau Lleol (LABV) a Chyllid Cynyddrannau Treth (TIF)
  • Ymrwymiad i leihau cyfran y cyllid a ddarperir trwy grantiau penodol trwy drosglwyddo grantiau presennol i’r setliad wedi ei ddadneilltuo ac ariannu polisïau newydd trwy’r setliad wedi ei ddadneilltuo lle bynnag y bo’n bosibl
  • Ymrwymiad i barchu egwyddorion democratiaeth leol wrth osod trethiant lleol a dileu’r pŵer i osod terfyn uchaf
  • Cytundeb i adolygu’r cydbwysedd ariannu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cefndir:

Mae cyllid llywodraeth leol o dan bwysau mawr wrth i wariant cyhoeddus gael ei leihau tra bo disgwyliadau’r cyhoedd a’r galw am wasanaethau lleol yn cynyddu. Mae setliad llywodraeth leol ar gyfer 2011-12 yn golygu gostyngiad mewn cyllid refeniw o -1.4%. Dim ond ychydig yn well yw’r rhagolygon ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Cafwyd gostyngiad llawer mwy fodd bynnag mewn cyllid cyfalaf, -19.7% yn 2011-12. Gallai gostyngiadau o’r fath arwaith at gostau cynyddol yn y dyfodol yn gysylltiedig â hen seilwaith sy’n adfeilio – tagfeydd a achosir gan dyllau yn y ffyrdd, costau cymdeithasol tai o ansawdd gwael seilwaith nad yw wedi ei ddylunio i ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd gyda chynnydd mewn llifogydd a thywydd eithafol y cynnydd mewn problemau iechyd a achosir gan lygredd, amodau byw gwael a safonau diogelwch gwael

Mae cyllid cyfalaf hefyd yn hanfodol i drawsnewid gwasanaethau – mae angen seilwaith newydd yn aml ar ffyrdd newydd o weithio.

Cydnabyddir na fydd y problemau yma’n mynd i ffwrdd trwy ddymuno am fwy o arian gan y Trysorlys. Mae angen i ni ystyried arloesi trwy gyllid cyfalaf yn cynnwys rhoi ecwiti y sector cyhoeddus ar waith mewn modelau partneriaeth mwy hyblyg gyda’r sector preifat. Mae cynghorau wedi gwneud defnydd da o hyblygrwydd benthyca darbodus, ond gellir cael mwy o hyblygrwydd trwy ddileu neilltuo o ffrydiau cyllid, dileu terfyn uchaf ar y dreth gyngor fel y gall cymunedau fuddsoddi mewn seilwaith a rhoi mwy o allu i gynghorau greu ffrydiau refeniw newydd i gefnogi benthyca, fel cyllid cynyddrannau treth a chodi tal ar ddefnyddwyr. Un o egwyddorion hanfodol democratiaeth leol yw bod cynghorwyr lleol yn gosod lefelau threthiant lleol, a’u bod wedyn yn atebol i etholwyr lleol am y penderfyniadau hynny. Mae pwerau terfyn uchaf yn wrthgyferbyniad uniongyrchol i’r egwyddor hon a dylid eu dileu.

Elfen hanfodol o’r berthynas rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yw y dylai’r ddau bartner fynd trwy unrhyw fenter neu bolisi newydd y mae llywodraeth ganolog yn dymuno ei chyflwyno fydd yn rhoi baich ariannol ar lywodraeth leol, a’i deall yn llawn a mynd i’r afael â hi.

Cred CLlLC y dylid dadneilltuo cyllid canolog ar gyfer llywodraeth leol. Mae canran grant refeniw'r llywodraeth sy’n cael ei neilltuo wedi codi i bron 20%. Mae neilltuo yn canolbwyntio sylw ar y ffordd y caiff arian ei wario yn cyflenwi gwasanaethau yn hytrach na’r buddion a’r canlyniadau a ddaw yn sgil y gwasanaethau hynny ac mae’n cyfyngu ar ddatblygiad ffyrdd arloesol o gyflawni’r canlyniadau hynny, mewn ffyrdd mwy cost effeithiol efallai. Mae neilltuo hefyd yn cynyddu costau gweinyddol ariannu gan fod angen cadw cofnodion manwl a’u harchwilio yn Llywodraeth Cymru ac mewn awdurdodau lleol.

Er mwyn cynyddu gallu llywodraeth leol i arloesi mewn ymateb i’r oes heriol hon, mae angen i ni wrthdroi’r graddau y mae llywodraeth leol wedi dod yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru am lawer o’i chyllid. Dylid felly ystyried modelau ariannu newydd, fel ail¬leoleiddio ardrethi busnes (gyda chynllun cydraddoli priodol i ddiogelu ardaloedd mwy difreintiedig).