08 Tachwedd 2011
Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth y bydd effaith sylweddol ar ein gallu i drin a thrafod meysydd pwysig megis cynhwysiant cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd a lles, diogelwch cymunedol, adfywio, cyrhaeddiad addysgol a ffyniant economaidd os methwn ni â rhoi digon o dai ar gael yng Nghymru. Felly, bydd yn hanfodol cynnig digon o dai fforddiadwy o safon er mwyn cyflawni amrywiaeth helaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, byd llywodraeth leol a chymunedau er gwell deilliannau.


