Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Cyflogaeth WLGA
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Carfan Cyflogaeth WLGA

Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni ac yn comisiynu sawl gorchwyl mewn meysydd megis addysg, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol ac ati er lles y gymuned. Gan eu bod yn cynnig cynifer o wasanaethau, rhaid i’r cynghorau gyflogi pobl mewn sawl maes arbenigol a galwedigaethol. Mae tua 160,000 o bobl yn gweithio yn 22 gyngor byd llywodraeth leol Cymru – 1 rhan o 8 o weithlu’r wlad.

Mae byd llywodraeth leol yn wynebu mwy a mwy o anawsterau gan fod llai o arian ar gael iddo a bod eisiau newid a gwella ei ffyrdd o weithio i ateb y galw cynyddol am lawer o wasanaethau rheng flaen. Er bod modd iddo wella gwasanaethau a chael gwerth ei arian trwy gydweithio, mae angen llawer o weithwyr i roi gwasanaethau da.

Mae gweithlu llywodraeth leol yn hollbwysig i lwyddiant yr ymdrech i wella. Felly, mae rhaid i awdurdodau lleol feithrin a chynnal medrau, datblygu rheolwyr ac arweinwyr rhagorol sy’n gallu gwneud y gorau o’r gweithlu a hybu cymhelliant ac ymdeimlad o werth ymhlith y staff er bod newidiadau drwy’r amser ac na fydd cynnydd yn eu cyflogau.

Mae Carfan Cyflogaeth WLGA yn helpu cynghorau Cymru i drin a thrafod materion y gweithlu trwy:

  • Helpu i feithrin a lledaenu’r arferion a’r dysg gorau. 
  • Cynghori a chyfeirio am y gyfraith ym maes cyflogaeth ac amodau a thelerau gwaith.
  • Gweithio gyda’r awdurdodau ynglŷn â medrau, cymwyseddau, datblygu’r gweithlu a chynllunio ar ei gyfer. 
  • Helpu’r awdurdodau i gydweithio o ran materion y gweithlu. Employment
  • Helpu i gynnal perthynas dda rhwng y cyflogwyr a’r gweithwyr a gweithio ar y cyd â’r undebau llafur. 
  • Cydweithio ag amryw bartneriaid i drin a thrafod materion y gweithlu yn sector cyhoeddus Cymru.
  • Gweithredu’n sefydliad cyflogwyr byd llywodraeth leol Cymru.

Cliciwch yma i weld rhai o’r swyddi mae byd llywodraeth leol Cymru yn eu hysbysebu. Mae rhagor ar wefan pob awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Freeman