Rydych chi yma: Hafan / Ewrop a WLGA / Swyddfa Ewropeaidd WLGA / Cyflawni
 

Cyflawni

Rhoi'r wybodaeth iawn i'r bobl iawn ar yr adeg iawn yw swyddogaeth hanfodol y swyddfa yng ngoleuni'r ffaith bod digon o wasanaethau gwybodaeth ar gael ar gyfer amryw sectorau a pholisïau. Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn 'siop unstop' i awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â materion a datblygiadau Ewrop.

Dyma brif negeseuon y swyddfa o ran cyflawni:

Rhoi blaenoriaeth i'r cwsmeriaid

Bydd y 3 swyddog yn cwrdd â staff yr awdurdodau lleol fel bo'n briodol ac yn meithrin amgyffred manwl o'r blaenoriaethau a'r prosiectau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Fel hyn, bydd y swyddfa o gymorth gwerthfawr i WLGA a'r awdurdodau lleol trwy roi gwasanaeth i ddiwallu anghenion penodol byd llywodraeth leol.

Deall anghenion y cwsmeriaid

Mae anghenion byd llywodraeth leol ynghylch materion Ewrop yn hollbwysig a bydd angen gwasanaeth mwy atebol ar awdurdodau lleol Cymru. I hwyluso hynny, bydd Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn mynychu cyfarfodydd swyddogion materion Ewrop ledled Cymru ac achlysuron eraill byd llywodraeth leol lle mae materion o'r fath yn ganolbwynt. Mae'r Swyddfa Ewropeaidd yn cydweithio'n agos â swyddogion polisïau ac ymgynghorwyr WLGA i feithrin gwell amgyffred o anghenion byd llywodraeth leol.

Rhagweithredol ac ymatebol

Mae nifer o faterion Ewrop lle bydd y swyddfa'n defnyddio dull rhagweithredol - fel sydd wedi'i amlinellu yn ein blaenoriaethau ynghylch polisïau. Bydd angen bwrw golwg ar y blaenoriaethau hynny yn rheolaidd wrth fod yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu. At hynny, mae'n bosibl bydd rhai awdurdodau am gael gwybodaeth am feysydd ychwanegol ambell waith ac, os digwydd hynny, bydd WLGA yn ymateb i'ch cais.

Gwasanaethau ymarferol

Bydd Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn gofalu ei bod yn cynnal gwasanaeth cyflawn ar gyfer rhoi gwybodaeth ymarferol i'r awdurdodau sy'n perthyn i'r gymdeithas. I'r perwyl yma, byddwn ni'n:

  • Ceisio dylanwadu ar sefydliadau a hoelion wyth yr Undeb Ewropeaidd a hybu polisïau WLGA yn eu plith. Rhoi cymorth ynghylch llunio polisïau a gwaith dylanwadu.
  • Hwyluso cyfathrebu ynglŷn ag anghenion byd llywodraeth leol, argymhellion ac ymatebion i hoelion wyth yr Undeb Ewropeaidd.
  • Rhoi gwybodaeth am gynlluniau ariannu.
  • Casglu gwybodaeth am ddeddfwriaeth a phroses llunio polisïau ar gyfer WLGA ac awdurdodau lleol Cymru.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau agos â sefydliadau Brwsel, cynrychiolwyr rhanbarthol a chymdeithasau eraill Ewrop.

Bod yn hyblyg

Bydd y swyddfa'n gweithio'n hyblyg er mwyn rhoi'r gwasanaeth mae'i angen ar fyd llywodraeth leol Cymru ynglŷn â materion Ewrop.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Pascoe