Rydych chi yma: Hafan / Ewrop a WLGA / Cyfeirlyfr Rhaglenni Ewrop
 

Cyfeirlyfr Rhaglenni Ewrop

Mae'r ddogfen yma ar gyfer yr awdurdodau yng Nghymru a hoffai fanteisio ar drefnau cyllido yr Undeb Ewropeaidd. Ei nod yw bwrw golwg dros gyllideb yr Undeb ar gyfer y saith mlynedd rhwng 2007 a 2013, a dangos sut mae’n cael ei dyrannu rhwng yr amryw raglenni.

Mae pob rhan yn ceisio rhoi gwybodaeth fydd yn galluogi'r darllenwyr i ddeall prif elfennau'r amryw raglenni. Mae dolenni â ffynonellau gwybodaeth fanylach megis galw am brosiectau a manylion y broses ymgeisio. Mae'r prosesau ymgeisio'n amrywio yn ôl y gronfa. Rhaid cyflwyno'r cais i'r Gomisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhai ond, mewn achosion eraill, un o awdurdodau yr Undeb Ewropeaidd neu'r wlad/rhanbarth o dan sylw sy'n gyfrifol am reoli rhaglenni.

Yn ogystal â'r cyfeirlyfr, mae Swyddfa WLGA ym Mrwsel yn adnodd neilltuol i'r Gymdeithas a'r awdurdodau sy'n perthyn iddi ynghylch cael gwybod am faterion Ewrop a hyrwyddo byd llywodraeth leol Cymru yn Ewrop.

Mae modd codi copi o’r cyfeirlyfr isod: 

Arweiniad ar Drefnau Cyllido 2007-2013 yr Undeb Ewropeaidd

Ar y llaw arall, gallwch edrych ar bob rhaglen trwy'r dolenni ar y dde:

Pennawd 1: Datblygu Cynaladwy

1a Cystadleuaeth ar gyfer twf economaidd a swyddi

  • 7fed Rhaglen Fframwaith Ymchwil 
  • Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewrop
  • Marco Polo II
  • Rhaglen ‘Dysgu Gydol Oes’
  • Rhaglen Cystadleuaeth ac Arloesedd
  • PROGRESS – rhaglen gyfun ynghylch swyddi a theyrngarwch y gymuned

1b Cydlyniad ar fater twf economaidd a swyddi

  • Cronfeydd Strwythurol

Pennawd 2: Gwarchod a Rheoli Adnoddau Naturiol

  • Cronfa Amaeth Ewrop ar gyfer Adfywio Cefn Gwlad 
  • Cronfa Pysgodfeydd Ewrop
  • Cynllun LIFE+

Pennawd 3: Rhyddid, Diogeledd, Cyfiawnder a Dinasyddiaeth

3a Rhyddid, Diogeledd a Chyfiawnder 

  • Rhaglen fframwaith ar Deyrngarwch a Rheoli Llifiadau Mudo
  • Hawliau sylfaenol a chyfiawnder
  • Diogeledd a Diogelu Rhyddid

3b Dinasyddiaeth

  • Ewrop ar gyfer ei Dinasyddion
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Diwylliant 2007
  • Pobl ifainc yn gweithredu
  • Rhaglen MEDIA 2007

Pennawd 4: UE yn chwarae rhan fyd-eang

  • Cynllun Cymorth cyn Ymuno 
  • Cynllun Cymdogaethau a Phartneriaethau Ewrop
  • Offeryn ar gyfer Cydweithredu ar Faterion Datblygu a Materion yr Economi
  • Cynllun ar gyfer Sefydlogrwydd
  • Cymorth Dyngarol – ar gyfer cyrff llywodraethau’r gwladwriaethau
  • Cymorth Macro-Ariannol
  • 10fed Cronfa Ewrop ar gyfer Datblygu