Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Pobl CLlLC
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Pobl CLlLC

Y Cyng John Davies

Arweinydd: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymu

John Davies Y Cyng

Mae'r Cynghorydd John Davies yn arwain Cyngor Sir Benfro ers yr etholiadau lleol fis Mehefin 2004. Mae'n gynghorydd er 1999, yn cynrychioli adran etholiadol Cilgerran.

Bu'n gyfarwyddwr i Fwrdd Arholi CBAC a Chyngor Llyfrau Cymru, ac fe gynrychiolodd gefn gwlad yng Nghyngor y Defnyddwyr Trydan am naw mlynedd. Fe gafodd ei benodi'n aelod o 'Golwg ar Ynni' Cymru wedyn. Mae'n arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) er 2008.

Cafodd ei enwi'n Wleidydd Lleol y Flwyddyn gan ITV Cymru fis Rhagfyr 2008 i gydnabod ei ymdrechion ym myd llywodraeth leol.

Rhwng 2004 a 2008, bu'n llefarydd i WLGA ynglŷn ag addysg a dysgu gydol oes ac yn aelod o Banel Cynghori Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad dros Safonau a Gwelliannau yn yr Ysgolion. Hyd at 2008, bu'n cynrychioli Cymru yn Sefydliad Cyflogwyr Athrawon y DG. Mae'n aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac mae'n un o lywodraethwyr Ysgol y Preseli, Crymych, lle cafodd ei addysgu.

Mae John yn ymwneud â'r cyfryngau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, gan gymryd rhan mewn rhaglenni materion cyfoes ar y radio a'r teledu fel ei gilydd yn rheolaidd. Yn 2010, cafodd ei benodi'n aelod o Fwrdd Awdurdod S4C gan y Gweinidog dros Faterion Diwylliannol. 

____________________________________________________________________________ 

Steve Thomas CBE

Prif Weithredwr: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Steve Thomas

Prif Weithredwr WLGA yw Steve Thomas. Dechreuodd yn y swydd honno fis Mawrth 2004. Ei swydd gyntaf ar ôl gadael yr ysgol oedd glöwr yng Nglofa'r Marine, ger Glynebwy. Ac yntau ym myd llywodraeth leol er 1989, rheolodd brosiect ad-drefnu Cyngor Bwrdeistref Islwyn yn rhan o'r paratoadau ar gyfer sefydlu awdurdod unedol newydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ym 1996.

Mae WLGA yn cynrychioli 22 awdurdod unedol Cymru ac awdurdodau'r 4 heddlu, y 3 pharc cenedlaethol a'r 3 gwasanaeth tân ac achub. Mae Steve yn adnabyddus iawn ym maes polisïau cyhoeddus Cymru. Mae'n cymryd rhan mewn sawl trafodaeth yn y cyfryngau, gan gyfleu safbwynt awdurdodau lleol Cymru ym mhob agwedd ar eu gwaith. Mae'n aelod o amrywiaeth helaeth o gyrff gwladol ac yn llywio Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru. Mae ganddo radd ddosbarth cyntaf – 'Hanes a Gwleidyddiaeth' – a gradd meistr, 'Rheoli Cyhoeddus'. Cafodd ei ddyrchafu'n Gadlywydd yn Urdd Ymerodraeth Prydain fis Tachwedd 2010 (trwy Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2010) am ei wasanaethau i fyd llywodraeth leol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams