Yn sgîl trosglwyddo'r cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub i'r Cynulliad yn 2004, daeth cyfle i feithrin perthynas waith newydd rhwng tri gwasanaeth tân ac achub Cymru, WLGA a byd llywodraeth leol. Mae Panel Materion Tân ac Achub WLGA yn rhan o'r datblygu hwn.
Dyma nodau'r panel:
- helpu i ddatblygu ymhellach berthynas WLGA â'r tri gwasanaeth tân ac achub;
- hwyluso trafodaethau rhwng y tri gwasanaeth tân ac achub ac WLGA am faterion strategol o bwys;
- helpu i sefydlu trefniadau ar gyfer Cymru i gyd lle bo'n briodol;
- cyflwyno pryderon a/neu sylwadau i Lywodraeth y Cynulliad.
Dyma aelodau'r panel: prif swyddog tân, cadeirydd ac is-gadeirydd awdurdod pob gwasanaeth tân ac achub ynghyd â Phrif Weithredwr, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb/Cyfiawnder Cymdeithasol a Swyddog Polisïau Diogelwch Cymunedol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y panel yn cwrdd yng Nghaerdydd ddwywaith y flwyddyn.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


