Thema allweddol dulliau cynnal a rheoli WLGA yw'r cymhelliant gwleidyddol mae'r aelodau'n ei roi. Fel hyn, mae modd gofalu bod pawb yn gweld WLGA yn brif lais byd llywodraeth leol Cymru a hwyluso cydweithio gwleidyddol clir â'r Cynulliad, Llywodraeth San Steffan a chyrff eraill. Dyma'r prif gyrff yn nhrefn WLGA:
Cyngor
Mae 79 o aelodau, gan gynnwys o leiaf 2 o bob awdurdod sy’n aelod. Mae’r cyngor yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i drafod polisïau strategol a phenodi’r arweinydd, y llywydd, y dirprwy lywyddion, a'r llefarwyr. Mae'n rhoi sêl ei fendith ar gyllideb WLGA hefyd.
Pwyllgor Cydlynu
Mae'r Pwyllgor Cydlynu yn cynnwys arweinydd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru a chynrychiolwyr yr awdurdodau sy'n aelodau cyswllt yn bresennol. Mae'r Pwyllgor Cydlynu yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac yn cyflawni swyddogaeth weithredol WLGA.
Is-bwyllgor Rheoli
Mae is-bwyllgor rheoli ac iddo arweinyddion y cylchoedd gwleidyddol a'r llywyddion yn aelodau yn cynnal cyfarfodydd yn ôl yr angen i drin a thrafod materion gweinyddu a rheoli.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lorraine D'Agnilli


